Gysylltiadau Cymunedol

Rai misoedd yn ôl bues i mewn bore coffi a drefnwyd gan Gysylltiadau Cymunedol Dyffryn Clydach i ddysgu am eu grŵp a’r gwaith yr oeddent wedi bod yn ei wneud. Tra ron i yno, ces i wybod am yr ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ganddynt a chlywais am y gwahaniaeth gwirioneddol yr oedd y grŵp wedi’i wneud i fywydau trigolion lleol.

Yn gynharach heddiw roeddwn yn falch iawn o alw draw unwaith eto ac ymuno yn eu dathliadau ar ôl iddynt lwyddo i ennill grant o £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu iddynt gynnal mwy o'r mathau o weithgareddau a digwyddiadau y mae'r gymuned yn gofyn amdanynt, a dyfnhau'r effaith y maent yn ei chael ar fywydau cymaint o bobl.
Llongyfarchiadau!

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd