“Rhaid i deuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan y sgandal gwaed heintiedig gael cefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru i sicrhau’r cyfiawnder y maent yn ei haeddu” – Sioned Williams AS
Mae Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Gorllewin De Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau am iawndal i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan y sgandal gwaed heintiedig.
Roedd Ms Williams yn siarad mewn dadl yn y Senedd ar yr Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a rhannodd hanes Rhian a Sharon, dwy chwaer o Gwm Tawe, y bu farw eu tad Arwyn Davies yn 1992 yn 60 oed.
Dim ond ar ôl marwolaeth eu mam, 26 mlynedd yn ddiweddarach, y gwnaeth y chwiorydd ddarganfod bod eu tad wedi marw o Hepatitis C, Hepatoma a Haemoffilia.
Roedd Mr Davies yn haemoffiliac a oedd dan ofal yr Athro Arthur Bloom, yr arbenigwr sy’n cael ei enwi yn adroddiad damniol Syr Brian Langstaff i'r sgandal gwaed heintiedig.
Cafodd Sharon a Rhian, "frwydr hir a chaled" i gael gafael ar gofnodion meddygol yn ymwneud â'u tad, ond yn y pen draw cawsant brawf bod eu tad wedi derbyn cynhyrchion gwaed heintiedig.
Dros yr holl gyfnod hwnnw, ni gysylltwyd gyda’r teulu i roi gwybod i unrhyw un ohonynt am y risgiau iddynt, nac i'w hysbysu bod ganddynt hawl i unrhyw daliadau.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Hyd yma, nid yw plant a gollodd riant, fel Rhian a Sharon, erioed wedi cael unrhyw iawndal na chydnabyddiaeth o farwolaethau eu rhiant. Dydyn nhw ddim hyd yn oed wedi derbyn llythyr ymddiheuriad gan eu bwrdd iechyd lleol.
“Mae hyn yn amhosib ei gyfiawnhau, o gofio bod pobl fel mam Rhian a Sharon, Eira, brofi caledi a salwch heb unrhyw gymorth ariannol yn dilyn marwolaeth eu tad. Rhaid ystyried amgylchiadau unigryw pob teulu a gafodd eu heffeithio, eu cydnabod, a thalu iawndal iddynt heb oedi pellach. Mae hyn nid yn unig yn foesol gywir, mae hefyd yn symbol o'r ymddiheuriad sy'n ddyledus gan y wladwriaeth i'r rhai y mae'r sgandal hon yn effeithio arnynt, a'r rhai y mae eu bywydau cyfan wedi'u creithio gan golled a chan gelwyddau.
“Er ei bod yn rhy hwyr i'w rhieni, mae angen cefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru ar blant fel Sharon a Rhian er mwyn sicrhau'r cyfiawnder a'r iawndal y maent yn ei haeddu. Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i bob teulu a ddioddefodd ganlyniadau dinistriol y sgandal gwaed heintiedig, a bod pawb sy'n byw gyda hemoffilia, fel ŵyr Arwyn, yn cael y cymorth gorau posibl gan wasanaethau cyhoeddus.”