“Siom ddofn” ynghylch cau NatWest Castell-nedd

“Mae’n sgandal nad oes rhaid i fanciau sy'n gwneud elw enfawr ddarparu gwasanaethau i'r cymunedau sydd wedi bod yn gwsmeriaid ffyddlon iddynt ers degawdau” - Sioned Williams AS

Closing down sign

Mae NatWest wedi cyhoeddi y bydd eu cangen yng Nghastell-nedd yn cau ar 13 Hydref 2025.

Mae Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, sydd â’i swyddfa 500 troedfedd o gangen NatWest yng nghanol tref Castell-nedd, wedi mynegi ei "siom ddofn" yn am y penderfyniad.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru:

“Rwyf wedi ysgrifennu at NatWest heddiw i fynegi fy mhryder am effaith eu penderfyniad i gau cangen Castell-nedd, a gofyn iddyn nhw ailystyried eu penderfyniad.

“Mae'n dilyn y patrwm o fanciau y stryd fawr yn cau eu hadeiladau, gan atal mynediad unigolion a busnesau i wasanaethau bancio wyneb yn wyneb.

“Mae Banciau'r Stryd Fawr yn gyflym i hysbysebu eu hunain fel rhai sydd wrth galon y gymuned, ac yn hapus i wneud elw o hynny, ond maen nhw'n anghofio'r cyfrifoldeb a ddylai fod yn rhan o hynny yn ddigon cyflym mae’n ymddangos. Rwy'n credu ei bod yn sgandal nad oes rhaid i fanciau sy'n gwneud elw enfawr ddarparu gwasanaeth i'r cymunedau sydd wedi bod yn gwsmeriaid ffyddlon iddynt ers degawdau.

“Mae'r bwlch a adawyd ar ôl gan y banciau stryd fawr hyn yn fwy na dim ond adeiladau gwag ar y stryd fawr. Mae sicrhau ein bod yn cadw'r gallu i drafod gydag arian parod yn ein cymunedau yn fater o degwch a chynhwysiant, a bydd yn ergyd i fusnesau lleol yng Nghastell-nedd sy'n defnyddio NatWest ac sy'n ymdrechu mor galed i gadw canol y dref yn fywiog ac yn le sy’n ffynnu, ac i'r cwsmeriaid sydd eisiau ac angen gwasanaethau bancio personol lleol wyneb yn wyneb.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd