Bioamrywiaeth, lles a mwy – mae manteision camlesi yn cyffwrdd â bron pob cyfrifoldeb sydd gan Lywodraeth Cymru, fy nod yw sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u dathlu. Nid yn unig fod camlesi Castell-nedd, Abertawe a Tennant yn fy rhanbarth yn ddarn unigryw o’n treftadaeth, ond maen't hefyd yn ased cymunedol go iawn y mae llawer o drigolion lleol ac ymwelwyr yn ei fwynhau bob blwyddyn.
Maent hefyd yn safle amgylcheddol pwysig, mae camlas Tennant yn fan bridio pwysig i'r Corryn Raft Ffen ac rwy'n Bencampwr Rhywogaethau arno.
Cliciwch yma i adael sylw neu i ddanfon neges
06.05.25 - Ymddiriedolaeth Natur a Chymdeithas Camlesi Abertawe
Mae Sioned Williams AS yn cwrdd â'r tîm yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sydd wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Camlesi Abertawe i daclo rhywogaethau sydd ddim yn rhai brodorol i’r ardal.
29.01.25 - Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod camlesi'n cael eu cadw, eu gwarchod a'u dathlu?
Bioamrywiaeth, lles a mwy – mae manteision camlesi yn cyffwrdd â bron pob cyfrifoldeb sydd gan Lywodraeth Cymru, felly gofynnais sut maen nhw’n sicrhau bod camlesi fel un Castell-nedd, Abertawe a Tennant yn fy rhanbarth i yn cael eu diogelu a'u dathlu.
Gallwch ddarllen y cofnod llawn yma
25.10.25 - Agoriad Chanolfan Camlas Abertawe
Gwych gweld agor cam 2 Cynllun Adfer Loc Clydach a Chanolfan Camlas Abertawe yng Nghlydach sy’n llawn o wybodaeth ac yn ased cymunedol gwych. Llongyfarchiadau i bawb a fu'n rhan o’r gwaith o ddod â'r rhan wych hon o Gamlas Abertawe yn ôl.
23.10.24 - Dathlu Grŵp Camlas Tŷ Banc
Mae Camlas Castell-nedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 250 oed dros y flwyddyn nesaf, yn anfodus gallai ein cenhedlaeth ni weld y gamlas yn diflannu’n llwyr, neu gallai ein cenhedlaeth ni weld y gamlas yn cael ei hadnewyddu a'i hailbwrpasu. Yn y Senedd heddiw rhoddais deyrnged i'r holl wirfoddolwyr a grwpiau fel Grŵp Camlas Tŷ Banc sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod y dewis cywir ar gyfer dyfodol y gamlas yn cael ei gymryd.
29.07.24 - Camlas Castell-nedd
Ar y dydd hwn, dau gant a phump ar hugain o flynyddoedd yn ôl, cwblhawyd y rhan olaf o gamlas Castell-nedd. Mae hyn yn gwneud y gamlas yn hŷn na stampiau post, addysg gyhoeddus yng Nghymru, a'r Deyrnas Gyfunol ei hun! Er gwaethaf y newidiadau enfawr sydd wedi digwydd yng Nghastell-nedd dros y ddwy ganrif ddiwethaf, mae camlas Castell-nedd yn elfen gyson yn ei hanes sy’n parhau hyd heddiw.
Rwy’n credu, gyda’r gefnogaeth gywir, y gallai’r gamlas chwarae rhan hanfodol yn lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ein cymunedau. Yr wythnos diwethaf, ces i gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o St Modwen, y cyfranddaliwr mwyaf yng Nghwmni Mordwyo Camlas Castell-nedd, i glywed am yr heriau a’r cyfleoedd sydd o flaen y gamlas. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot a byddaf yn estyn allan at grwpiau cymunedol sydd eisoes yn gwneud cymaint i helpu i gynnal a chadw’r gamlas, i sicrhau nad ni fydd y genhedlaeth sy’n caniatáu i’r rhan bwysig hon o’n hanes i ddiflannu am byth.
11.09.23 - Wedi'i weld: y Corryn rafftio’r gors galch prin
17.01.22 - Sioned Williams AS yn cefnogi galwadau trawsbleidiol i warchod “ased cymunedol gwbl allweddol”
Hydref 2021 - Pencampwyr Rhywogaeth: Corryn Raft Ffen
Mae'n anrhydedd i mi gael fy ngofyn ac i dderbyn rôl Hyrwyddwr Rhywogaethau ar gyfer y Corryn Raft Ffen, sy'n brin yn frodorol i Dwyni Crymlyn.
- Tudalen cyfeiriadur Buglife: https://www.buglife.org.uk/bugs/bug-directory/fen-raft-spider/
- Briff ar byllau ar gyfer pryfed cop rafft ffen: https://freshwaterhabitats.org.uk/wp-content/uploads/2013/09/Fen-Raft-Spider-new-logo.pdf
- Yr holl wybodaeth y gallech fod ei hangen ar wefan bwrpasol(!): https://www.dolomedes.org.uk/index.php/
- Fideo gwych yma ohono yn sefyll ar y dŵr ac yn hela am ysglyfaeth: https://www.youtube.com/watch?v=FsH1GGyQCpo