Bydd Sioned Williams AS yn herio penderfyniad Banc Lloyds i gau banc olaf Cwm Tawe
Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus i drafod cynllun Banc Lloyds i gau eu cangen ym Mhontardawe – y banc olaf yng Nghwm Tawe – mae Sioned Williams AS wedi amlinellu ei chamau nesaf i herio’r penderfyniad “trychinebus”
Dywedodd Ms Williams, sy’n byw ym Mhontardawe, ac sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Senedd, fod cryfder teimladau’r cyhoedd yn “hynod gryf” gyda nifer oedd yn bresennol yn y cyfarfod cyhoeddus yn ei gwneud yn glir y bydd cau’r banc yn effeithio ar drigolion a busnesau fel ei gilydd.
Nododd un busnes, sy’n cyflogi 45 o bobl leol ac yn ymdrin â symiau mawr o arian parod, bod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei dynnu allan a’i dalu mewn i Swyddfa’r Post, a nododd un arall fod taliadau cerdyn yn unig yn arwain at ffioedd a thaliadau ychwanegol.
Mae mwy nag un busnes wedi mynegi pryder bod dydd Mercher eisoes yn amlwg yn dawelach yn y dref – diwrnod pryd y mae’r gangen ar gau ar hyn o bryd – a’r pryder yw y gallai cau’n llwyr weld nifer yr ymwelwyr i’r stryd fawr yn lleihau ar ddiwrnodau eraill hefyd.
Cododd trigolion bryderon hefyd ynghylch effaith colli gwasanaethau wyneb yn wyneb ar bobl hŷn, gan fod llawer ohonynt yn ei chael hi’n anodd i bancio dros y ffôn, ac nid ydynt ar-lein. Roedd pryderon hefyd ynghylch yr angen am gyngor brys mewn person wrth geisio osgoi sgamiau.
Gwahoddwyd Banc Lloyds i'r cyfarfod cyhoeddus, ond gwrthododd fynychu, ac felly mae Ms Williams bellach wedi trefnu cyfarfod gyda chynrychiolydd i adrodd yn ôl ar farn pobl leol.
Mae Ms Williams hefyd mewn cysylltiad ag Age Cymru, Mencap a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy’n cynrychioli grwpiau bregus a fydd yn cael eu heffeithio’n benodol gan ddileu gwasanaethau wyneb yn wyneb ar y stryd fawr.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
Mae teimladau y cyhoedd am hyn yn hynod gryf. Bydd y penderfyniad trychinebus i gau banc olaf Cwm Tawe yn effeithio ar drigolion a busnesau lleol fel ei gilydd.
“Mae cymaint o fusnesau ym Mhontardawe yn gweithredu drwy ddefnyddio arian parod, a dim ond gydag arian parod y mae rhai o’n dinasyddion bregus yn gyfforddus, ac mae’n well gan lawer o drigolion eraill hynny gan ei fod yn helpu gyda chyllidebu. Bydd cael gwared ar wasanaeth cownter wyneb yn wyneb a pheiriant arian 24/7 yng nghanol y dref yn niweidiol i’n cymuned leol.
“Byddaf yn herio’r rhesymau a roddwyd gan Link yn eu hasesiad ynghylch pam eu bod yn dweud y gall y gangen hon gau heb effaith. Dyw hi ddim mor hawdd ymweld â pheiriant arian arall, sydd y tu mewn i fusnesau eraill ac felly dim ond ar gael yn ystod eu horiau busnes, neu sydd y tu allan i ganol y dref ac ar draws priffyrdd prysur.
“Dyw hi ddim mor syml chwaith ag ymweld â changen mewn tref arall, oherwydd byddai hynny’n golygu naill ai teithio i gwm arall, neu i mewn i Abertawe, sy’n anodd oherwydd cyflwr gwael cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus lleol.
“Byddaf hefyd yn parhau i bwyso am hwb bancio pe na bai Lloyds yn newid eu penderfyniad ac ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’u hymrwymiad maniffesto i helpu i ddatblygu banciau cymunedol yng Nghymru.”