Bu Sioned Williams AoS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, yn cwrdd heddiw â busnesau lleol yng Nghastell-nedd yn dilyn achos fwrgleriaeth yng nghanol y dref.
Bu Sioned Williams AoS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, yn cwrdd heddiw â busnesau lleol yng Nghastell-nedd yn dilyn achos fwrgleriaeth yng nghanol y dref.
Bore ddoe, darganfuwyd bod ffenestri Emir’s Salon ar Stryd yr Angel wedi’u chwalu dros nos ac arian ac offer wedi eu dwyn. Dyma'r diweddaraf mewn nifer o ddigwyddiadau tebyg yn yr ardal hon o ganol tref Castell-nedd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd perchennog Salon Emir, Mehmet Haskan:
“Mae wedi bod yn ofnadwy i ni. Fe gollon ni ddiwrnod llawn o fasnachu ddoe ac rydyn ni'n gorfod talu tâl dros ben am yr holl wydr. Ac nid digwyddiad untro yw hwn: mae achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf yng Nghastell-nedd, gan effeithio ar fusnesau lleol eraill a gwneud i drigolion deimlo'n anniogel yn eu cymuned eu hunain.
“Dyma ein man gwaith – nid yw’n deg nac yn rhesymol disgwyl i ni weithio dan amodau o’r fath, ac nid yw ychwaith yn deg ar ein cwsmeriaid na’r rhai sy’n byw yn yr ardal.
“Mae angen cymryd camau i atal y math yma o ddigwyddiadau yn y lle cyntaf, mae angen gosod mwy o gamerâu teledu cylch cyfyng, ac mae angen i’r heddlu gyfathrebu’n fwy rheolaidd gyda busnesau lleol fel ein un ni fel y gallant gael gwybod beth sy’n mynd ymlaen yng nghanol ein tref a mynd i’r afael yn iawn â’r broblem gynyddol hon o ymddygiad gwrthgymdeithasol.”
Siaradodd Sioned Williams hefyd â pherchnogion Smashed Raspberry, Aura ac Annie’s Tearooms ar Stryd yr Angel, a mynegodd bob un ohonynt bryderon tebyg ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a diffyg teledu cylch cyfyng. Cwynodd y perchnogion am “ddirywiad gwirioneddol yn y dref yn ystod y misoedd diwethaf” oherwydd achosion o “weiddi, ymladd ac ymddygiad bygythiol”, a disgrifiodd y stryd fel “ardal hyfryd sy’n cael ei difetha’n araf.” Mae perchnogion y busnesau hefyd wedi galw am wahardd gemau pêl yn yr ardal ac am batrolau heddlu mwy rheolaidd.
Mae Sioned Williams yn mynd â'r pryderon hyn at yr Heddlu a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd AoS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams:
“Mae’r heddlu wedi cadarnhau i mi fod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â phobl ifanc yng nghanol tref Castell-nedd, ond dywedant mai prin yw’r dystiolaeth sydd ganddynt, sy’n cefnogi galwadau perchnogion busnesau am yr angen am deledu cylch cyfyng gwell a phatrolau mwy rheolaidd. Bu oedi hir hefyd cyn i'r heddlu allu ymateb i ddigwyddiadau yr adroddwyd amdanynt. Dywedodd perchnogion busnes wrthyf eu bod yn teimlo dan warchae, ac yn awr yn gorfod aros yn eu busnesau ar ôl oriau agor i sicrhau nad oes unrhyw ddifrod yn cael ei wneud.
“Mae angen i’r heddlu a’r Awdurdod Lleol weithredu ar fyrder i sicrhau bod ein busnesau lleol yn cael eu cefnogi ac nad yw hyn yn effeithio ar eu masnach. Roeddwn yn falch o glywed bod yr heddlu wedi gofyn am allgymorth gan y gwasanaethau ieuenctid ac wedi sicrhau cyllid ychwanegol i helpu i fynd i’r afael a’r materion hyn. Rhaid i bob asiantaeth gydweithio i sicrhau’r hyn mae pawb eisiau ei weld – sef canol tref ffyniannus, bywiog a diogel.”