Galwodd AS Plaid Cymru, Sioned Williams yr wythnos hon ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cyfraddau uchel o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag asthma ymhlith menywod.
Wrth siarad yn ystod dadl yn y Senedd ddydd Mercher, galwodd Sioned Williams, sef llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, ar y Senedd i gefnogi cynnig Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol i drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint.
Yn ystod y ddadl, soniodd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru am hanes ei mam-gu, Mari Owens, "gwraig i löwr, ac yn byw yn Rhymni, pentref glofaol tlawd, lle roedd llwch a llygredd y diwydiant glo yn llenwi'r awyr adeg ei marwolaeth ym 1958"; buodd farw o asthma pan oedd yn 50 oed, cyn i'r AS gael ei geni. Ychwanegodd yr AS fod "pobl yn dal i farw o asthma yng Nghymru heddiw—pobl fel fy mam-gu, sy'n byw mewn ardaloedd tlawd, lle mae llygredd awyr yn dal i fod yn uchel, sy'n byw mewn tai oer a thamp."
Dywedodd Sioned Williams AS:
"Mae astudiaeth gan Asthma and Lung UK yn dangos bod menywod bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw o bwl o asthma na dynion. Amcangyfrifir bod 180,000 o fenywod yng Nghymru yn byw ag asthma ac mae'r adroddiad yn dangos nad oes digon o waith ymchwil wedi'i wneud i archwilio effeithiau hormonau rhyw benywaidd ar asthma. Gall amrywiadau mewn hormonau rhyw benywaidd a achosir gan lasoed, beichiogrwydd, y mislif a menopos waethygu neu hyd yn oed ysgogi pyliau o asthma sy'n bygwth bywyd. Wrth gofio bod fy mam-gu yr oedran oedd hi pan fu farw, 50, mae hyn yn amlwg hefyd o bosib yn ffactor yn yr hyn ddigwyddodd iddi hi.
"Felly, mae’n hynod o bryderus, yn arswydus, fel dywedodd Rhun ap Iorwerth, fod yna fenywod fel fy mam-gu yn dal i farw o asthma yng Nghymru heddiw. Mae meddyginiaethu a thriniaethau gwell i'w cael, ond mae ffactorau fel tlodi, diffyg aer glân ac effaith anghydraddoldebau iechyd yn dal i chwarae eu rhan yn y marwolaethau hyn, ac mae yn rhan fawr. Mae hwn yn faes y mae angen ymchwilio iddo ymhellach gan fod yr ymagwedd yr un maint i bawb bresennol ar gyfer trin asthma yn beryglus i lawer o fenywod yng Nghymru."
Aeth Sioned Williams yn ei blaen i amlinellu’r effeithiau andwyol y gall anghydraddoldeb economaidd ac aer brwnt eu cael ar iechyd anadlol:
"Yn y rhanbarth o Gymru dwi'n ei chynrychioli, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae 7.3% o bobl ag asthma, yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae'r rhanbarth hefyd yn cynnwys rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae 15% o Gastell-nedd Port Talbot, y sir ble dwi'n byw, yn y 10% o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru a 33% yn yr 20% mwyaf difreintiedig. Mae'r 20% tlotaf ddwy neu dair gwaith yn fwy tebygol o angen derbyniadau brys i’r ysbyty oherwydd asthma o gymharu â'r 20% cyfoethocaf.
"Rŷn ni wedi clywed gan Mabon ap Gwynfor am effaith ansawdd wael yr awyr, gyda Phort Talbot yn fy rhanbarth i yn un o'r llefydd gwaethaf am lygredd awyr yn y Deyrnas Gyfunol. Yn Aberafan, mae 75% o feddygfeydd ac 11% o ysgolion mewn ardaloedd sy'n torri terfynau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer nitrogen deuocsid. Mae 75.9% o bobl â COPD sy'n byw mewn amddifadedd yn nodi bod llygredd aer yn effeithio ar eu hiechyd. Mae anghydraddoldebau iechyd sylweddol yn sicr yn gysylltiedig â COPD, gyda phobl o'r aelwydydd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o gael pwl dwys pan fyddant yn cael trafferth anadlu.
"Dyw hi ddim dderbyniol bod y ffactorau hyn a gyfrannodd at farwolaeth fy mam-gu yn lawer rhy ifanc ym 1958, a miloedd o'i chyd-Gymry ers hynny, yn dal i beryglu a thorri bywydau yn fyr yn 2023."
Gwyliwch fwy: