Cannoedd o bunnoedd y mis i arbed plant rhag gorfod cerdded lan skyscraper bob dydd!

Sioned Williams AS yn galw am adolygu trothwyon milltiroedd Teithio i Ddysgwyr yn sgil teithiau cerdded dyddiol serth i ddisgyblion Castell-nedd

A steep street in the Melin, Neath

Mae Sioned Williams AS wedi annog Llywodraeth Cymru i gynnwys adolygiad o'r trothwyon milltiroedd presennol yn yr adolygiad o'r mesur Teithio gan Ddysgwyr.

Ar hyn o bryd nid yw disgyblion ysgol uwchradd sy'n byw o fewn 3 milltir i'w hysgol yn gymwys i gael cludiant am ddim.

Dywed Ms Williams fod etholwr o ardal Melin yng Nghastell-nedd, sydd ddim yn berchen ar gar, wedi datgelu yn ddiweddar ei bod yn talu £400 y mis rhwng costau trafnidiaeth gyhoeddus ac arian cinio i'w tri phlentyn fynychu Ysgol Gyfun Cefn Saeson.

Mae'r daith gerdded o'u cartref i Gefn Season ychydig dros 2 filltir, ond mae'n cynnwys darn i fyny rhiw serth sy'n uwch na'r Tŵr yng Nghei Meridian yn Abertawe – yr adeilad talaf yng Nghymru ar hyn o bryd – a gall gymryd awr i ddisgyblion ei cherdded.

Er bod tocyn wythnosol ar y bws ysgol yn £13 yr wythnos, i'r rhai nad ydynt yn byw ar y llwybr hwn, neu sydd angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am resymau eraill, gall y gost fod cymaint â £16.50 yr wythnos.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru:

“Gall disgyblion ysgol uwchradd fod yn cerdded hyd at chwe milltir bob dydd cyn iddynt fod yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim. Mae hyn yn llawer i'w ofyn i unrhyw ddisgybl, ond yn enwedig y rhai sy'n gorfod dringo rhiw mor serth un y Cimla i ysgol Cefn Saeson. Mae'n codi 440 troedfedd, mae hynny'n uwch na'r adeilad talaf yng Nghymru!

“I rai disgyblion, nad oes ganddynt yr opsiwn o lifft ac yn enwedig mewn misoedd tywyll y gaeaf neu mewn tywydd gwael lle mae'r daith i'r ysgol hyd yn oed yn fwy anodd, eu hunig opsiwn yw talu am gludiant. Rwy'n deall gan rieni bod plant yn aml yn cael eu hannog i ddal y bws i'w stopio rhag geisio cymryd y llwybr byr trwy Gwm Eaglesbush, gwarchodfa natur hardd, ond anghysbell.

“Unwaith y byddwch chi'n ychwanegu cost trafnidiaeth gyhoeddus ag arian cinio ysgol, yna mae costau addysg wir yn cynyddu. Roeddwn i'n bryderus iawn o glywed bod un o fy etholwyr yn gorfod talu £400 y mis yn rheolaidd dim ond i gael eu tri phlentyn yn ddiogel i'r ysgol a'u bwydo unwaith y byddant yno.

“Pan fo cost cludiant ysgol yn cael ei nodi'n rheolaidd fel rheswm pam mae cymaint o ddisgyblion yn colli'r ysgol, ac os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd eu potensial, yna byddai peidio â mynd i'r afael â'r pwynt hwn yn eu hadolygiad o ganllawiau Teithio i Ddysgwyr yn annoeth iawn.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd