Hoffwn ddiolch i Gynghorwyr Plaid Cymru ac holl aelodau’r Glymblaid Enfys a swyddogion y Cyngor sydd wedi llwyddo i ddiogelu nifer fawr o wasanaethau er gwaethaf toriadau mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Flwyddyn yn ôl i’r mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n dod â’r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben, er gwaethaf costau cynyddol i weithredwyr bysiau a llai o refeniw oherwydd yr adferiad araf yn nifer y teithwyr ar ôl y pandemig. Rwyf wedi treulio llawer o’r flwyddyn ddiwethaf hon yn herio’r llywodraeth ar eu penderfyniad, ac wedi dadlau’r achos dros fuddsoddi mwy yn yr hyn ddylai gael ei ystyried yn wasanaeth cymunedol hanfodol.
Tra bod Llywodraeth Cymru yn addo diwygiadau yn y dyfodol, mae’r Glymblaid Enfys yn gweithredu heddiw i ddiogelu gwasanaethau sy’n hanfodol ar gyfer iechyd, llewyrch a lles ein cymunedau.
Hoffwn hefyd ddiolch i’r llu o etholwyr sydd wedi ysgrifennu ataf, at eu cynghorwyr, at gwmnïau bysiau ac at Lywodraeth Cymru. Rydych chi wedi ysgrifennu llythyrau, llofnodi deisebau a rhannu sut mae toriadau wedi effeithio arnoch chi. Mae eich ymdrechion wedi bod yn hanfodol i wneud gwasanaethau bws yn flaenoriaeth, ac rydych yn haeddu clod am wneud hyn yn bosibl!