Galw ar y Comisiwn Ffiniau i Gymru i Ddiwygio Cynigion ‘Annemocrataidd’ ar gyfer Cwm Tawe.

Mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru Sioned Williams wedi galw ar y Comisiwn Ffiniau i Gymru i ail-edrych ar y cynigion diwygiedig a gyhoeddwyd heddiw a fyddai’n gweld Cwm Tawe’n rhannu Aelod Seneddol yn San Steffan gyda Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Mae’r newidiadau wedi’u gwneud yn dilyn penderfyniad San Steffan i leihau nifer yr ASau Cymreig. Byddai'r cynigion diweddaraf yn gweld Cwm Tawe yn rhan o sedd newydd "Brycheiniog, Maesyfed a Chwm-tawe" a fyddai'n ymestyn o Drebannws a Phontardawe i Raeadr a Llanandras.

Dywedodd Sioned Williams AS:

“Mae’n annerbyniol bod Cymru mewn sefyllfa lle mae ein llais democrataidd yn cael ei dorri o 20% ac mae’r newidiadau a gynigir i’r gynrychiolaeth ar gyfer Cwm Tawe yn gwbl annerbyniol.

“Nid yw uno cymunedau ôl-ddiwydiannol Cwm Tawe gyda’r ardaloedd gwledig pell fel Brycheiniog a Maesyfed yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, a bydd yn gwneud y gwaith o wasanaethu’r cymunedau hyn yn amhosibl i bob pwrpas.

"Wrth ffurfio ei gynigion roedd y Comisiwn Ffiniau yn gallu cymryd i ystyriaeth ystyriaethau daearyddol a rhwystrau megis mynyddoedd, "hygyrchedd" etholaeth, ffiniau llywodraeth leol yn ogystal â "chysylltiadau lleol" a fyddai'n cael eu torri gan newidiadau a'r "anghyfleustra" o newidiadau. Mae'r cynigion ar gyfer Cwm Tawe yn bodloni pob un o'r meini prawf hyn ac eto mae'r pwyntiau hyn wedi'u hanwybyddu’n gyfangwbl.

"Yn syml, mae'r hyn sy'n cael ei gynnig yn annemocrataidd. Ar yr adeg gythryblus hon mewn gwleidyddiaeth a chyda'r argyfwng costau byw yn taro cymunedau, mae'n bwysicach nag erioed bod gan bobl ffydd yn y broses wleidyddol a'r system cynrychiolaeth ddemocrataidd. Rwy'n annog y Comisiwn Ffiniau i ailystyried y cynnig hwn a gofyn i bawb sy’n byw yng Nghwm Tawe sy’n bryderus ynglŷn â’r cynlluniau i gyflwyno eu gwrthwynebiadau.”

I gyflwyno eich gwrthwyneb dilynwch y ddolen: https://www.bcw-reviews.org.uk/node

Map o Brycheiniog, Maesyfed a Chwm-tawe

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd