“Mae Llafur yng Nghymru wedi caniatáu i ddibyniaeth ar barseli bwyd yng Nghymru i ddod y norm newydd” – Sioned Williams AS
Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS, wedi galw allan Llywodraeth Lafur y DU a Llywodraeth Lafur Cymru am fethu i weithredu ar dlodi. Mae hyn yn dilyn adroddiad a chyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 21 Mai 2025) gan Trussell sydd wedi datgelu bod dibyniaeth ar fanciau bwyd yn parhau yn llawer uwch na lefelau cyn y pandemig.
Mae adroddiad Trussell wedi datgelu bod darparu bwyd brys yng Nghymru wedi bron dyblu yn ystod y degawd diwethaf, ac wedi cynyddu o 31% ers dechrau'r tymor Senedd hwn.
Gyda lefelau ystyfnig o dlodi plant yng Nghymru sy’n parhau i gynyddu, mae bron i ddwy-treian o barseli bwyd brys yn mynd i deuluoedd gyda phlant.
Yn ystod Cynhadledd Gwanwyn Plaid Cymru yn Llandudno yn gynharach eleni, cyhoeddodd y blaid y byddent yn adlewyrchu Taliad Plant yn yr Alban – polisi sydd wedi’i brofi’n llwyddiannus yn ymdrin â thlodi plant.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS:
“Mae'n sgandal cenedlaethol bod cymaint o bobl a theuluoedd yng Nghymru yn gorfod dibynnu ar barseli bwyd. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod lefelau o ddibyniaeth yn parhau i fod yn llawer uwch na cyn y pandemig, sy'n golygu bod Llafur yng Nghymru wedi caniatáu i ddibyniaeth ar barseli bwyd i ddod y norm newydd.
“Mae gweithredoedd gellir Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y DU eu cymryd i leihau'r angen am fanciau bwyd yng Nghymru, ond maent yn dewis peidio.
"Gyda bron i ddwy-dreian o barseli bwyd yn mynd i deuluoedd â phlant, rhaid blaenoriaethu mynd i'r afael â thlodi plant yn ein cymunedau. Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared â’r cap budd-dal dau blentyn, un o'r prif bolisïau sy'n gwthio mwy a mwy o deuluoedd i dlodi a'u cadw mewn tlodi. Bydd y toriadau i fudd-daliadau anabledd hefyd yn cynyddu'r nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn sylweddol.
“Lle mae Llafur wedi methu ag ymrwymo i dargedau i leihau tlodi plant yn ein cymunedau a'r angen am fanciau bwyd, bydd Plaid Cymru yn cymryd y camau angenrheidiol ac yn gweithredu taliad plentyn uniongyrchol - fel yn yr Alban - i gynnal a chefnogi teuluoedd yng Nghymru. Oherwydd pan mae ein plant yn tyfu i fyny mewn tlodi, nid yw gwneud dim yn opsiwn.”