Mae gwasanaethau bancio yn bwysig.
Er gwaethaf y cynnydd mewn bancio ar-lein, mae yna lawer o bobl a busnesau ar draws ein cymunedau sy'n dibynnu ar fynediad cyflym a chyfleus i wasanaethau wyneb i wyneb.
Mae Banc Lloyds wedi cyhoeddi cynlluniau i gau cangen Pontardawe ar ddiwedd 2025. Dyma’r banc olaf sy’n gwasanaethu Cwm Tawe, a byddai colli’r gangen hon yn gadael cymunedau ar draws y cwm heb fynediad cyfleus i fanc.
Mae Sioned Williams AS, ynghyd â Chynghorwyr Pontardawe Anthony Richards a Heath Davies, yn ogystal â chynghorwyr eraill Plaid Cymru yng Nghwm Tawe yn gwrthwynebu’r penderfyniad hwn a byddant yn brwydro i achub gwasanaethau bancio
Bydd unrhyw ddata a gesglir yn cael ei ddefnyddio yn unol â’n polisi preifatrwydd. Bydd eich enw a’ch côd post yn cael eu cynnwys pan fyddwn yn rhannu’r ddeiseb hon â Banc Lloyds. Gallwch optio allan o dderbyn cyfathrebiadau gennym drwy e-bostio [email protected]
Rwy’n gwrthwynebu’r penderfyniad i gau Banc Lloyds ym Mhontardawe yn gryf gan y bydd yn effeithio’n negyddol ar lawer o drigolion a busnesau sy’n dibynnu ar wasanaethau wyneb i wyneb.
Galwaf ar Lloyds i ail ystyried y penderfyniad hwn a sicrhau bod gwasanaethau bancio yn aros yng Nghwm Tawe.