“Mae’n fan geni Syr Gareth Edwards a’r Fonesig Siân Phillips ond fyddech chi ddim hyd yn oed yn gwybod eich bod wedi cyrraedd y pentref.” – Sioned Williams AS
Mae Sioned Williams, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi dechrau ymgyrchu dros sicrhau arwydd croeso pwrpasol i bentref.
Pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot yw Gwauncaegurwen, a man geni'r arwr rygbi Syr Gareth Edwards, a'r actores nodedig y Fonesig Siân Phillips.
Tra bod trefi a phentrefi eraill yn aml yn arddangos pwy yw eu meibion a’u merched enwog ar yr arwyddion sy'n nodi eu ffiniau, nid oes gan Wauncaegurwen hyd yn oed arwyddion sy'n nodi enw'r pentref.
Codwyd hyn gyda’r Aelod Seneddol rhanbarthol Sioned Williams gan drigolion pan oedd yn cynnal cymhorthfa cymunedol yn Nhairgwaith, pentref cyfagos i Wauncaegurwen:
“Mae Gwauncaegurwen yn gartref i’r cewri Cymreig Syr Gareth Edwards a’r Fonesig Siân Phillips ond fyddech chi ddim hyd yn oed yn gwybod eich bod chi wedi cyrraedd y pentref.”
Dywedodd un etholwr wrth Ms Williams, “ar ôl cyrraedd, fe allech chi yrru mas o’r pentref heb sylweddoli eich bod erioed wedi dod i mewn iddo” a dywedodd un arall, “croeso i ran o Gastell-nedd Port Talbot sydd wedi ei hanghofio.”
Aeth Ms Williams ymlaen i ddweud:
“Yn ddiweddar mynychais lansiad canmlwyddiant geni Richard Burton. Roedd rhan o’r dathliadau yn cynnwys arwydd hyfryd yn croesawu ymwelwyr i Bontrhydyfen, gan ddangos mai dyma fan geni Richard Burton, Ivor Emmanuel a Rebecca Evans.
“Dylai'r ffaith i Wauncaegurwen roi mawrion fel Siân Phillips a Gareth Edwards i ni gael ei dathlu, a dyna pam rydw i wedi ysgrifennu at y cyngor i weld beth ellir ei wneud am hyn.
“Gall arwyddion syml arddangos hunaniaeth unigryw ein cymunedau a’r bobl nodedig a aned ynddynt gan ddenu ymwelwyr. Efallai y byddai arwydd Gwauncaegurwen, tebyg i’r un ym Mhontrhydyfen, yn gwneud i’r rhan bwysig hon o’r fwrdeistref sirol deimlo ei bod yn cael ei gwerthfawrogi.”
Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ysgrifennu’n ôl at Ms Williams gyda sicrwydd bod hyn yn “uchel ar agenda” y Rheolwr Economi Ymwelwyr sydd newydd ei benodi, a fydd yn codi hyn gyda chynghorwyr lleol pan fyddant yn cyfarfod nesaf.