Sioned Williams AS yn galw am ddiweddariad brys ar argyfwng deintyddol y GIG

“Mae iechyd deintyddol ac iechyd y geg pobl mewn perygl, ac mae deintyddion y GIG yn pleidleisio gyda’u traed – rwy eisiau gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am hyn” – Sioned Williams AS

Sioned Williams MS speaking in the Senedd Chamber

Yr wythnos hon mae Sioned Williams AS wedi gofyn i’r Prif Weinidog am ddiweddariad brys ar yr argyfwng deintyddol sy’n wynebu trigolion ar draws Gorllewin De Cymru sy’n arwain at bobl yn methu â chael apwyntiadau gyda deintyddion y GIG.

Daw’r alwad ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatgelu’n ddiweddar fod mwy na hanner yr holl achosion o ganser y geg bellach yn cael eu hadnabod ar gamau hwyrach, gyda nifer yr achosion yng Nghymru yn codi bob blwyddyn.

Gall mynediad amserol at apwyntiadau deintyddol rheolaidd helpu i adnabod arwyddion cynnar canser y geg, ond yn y Senedd heddiw, datgelodd Sioned Williams AS wrth y Prif Weinidog fod pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dal i’w chael yn anodd cael apwyntiad deintyddol GIG.

Dywedodd un practis deintyddol yng Nghastell-nedd wrth Ms Williams fod “argyfwng yng ngweithlu deintyddol y GIG ar hyn o bryd ac rydym yn ei chael hi’n anodd dros ben i ddod o hyd i ddeintyddion sy’n fodlon darparu gwasanaethau GIG.”

Cododd Sioned Williams AS bryderon ynghylch anhyblygrwydd y metrigau a ddefnyddir yng nghytundebau presennol deintyddion, sy'n golygu bod rhai mathau o gleifion yn cael eu troi i ffwrdd.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae fy mewnflwch yn llawn negeseuon gan bobl ar draws Castell-nedd Port Talbot nad ydynt yn gallu cael apwyntiad deintydd GIG. Mae cael mynediad amserol a rheolaidd at ddeintydd mor bwysig, ac rydym yn gwybod eu bod yn hanfodol wrth helpu i adnabod arwyddion cynnar clefydau fel canser y geg.

“Mae deintyddion a’u staff yn aml yn y llinell flaen o ran teimlo effaith rhwystredigaeth y cyhoedd – ac mae deintyddion lleol wedi dweud wrthyf eu bod yn rhwystredig eu hunain oherwydd na allant wasanaethu eu cleifion GIG yn iawn. Mae’r ffordd y mae’r llywodraeth yn gofyn iddyn nhw flaenoriaethu rhai cleifion ar gyfer triniaeth yn golygu bod yna ostyngiad mewn mynediad i fathau eraill o gleifion. Mae’r cytundeb presennol yn arwain at ganlyniadau anfwriadol ac annheg, gyda llawer o gleifion yn methu â chael apwyntiad o gwbl.

“Nid yw’r Prif Weinidog yn gwrando a phan wnes i godi hyn gyda hi, dim ond ailadrodd y polisi presennol y gwnaeth hi. Mae argyfwng yng ngwasanaeth deintyddol y GIG sy’n cael ei achosi’n rhannol gan gytundebau sydd ddim yn addas at y diben. Mae angen sicrwydd y bydd y cytundebau newydd yn mynd i’r afael â hyn ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i roi diweddariad brys am hynny.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd