“Dylai Llywodraeth Lafur Cymru fod yn ailgyflwyno targedau clir a mesuradwy ar gyfer lleihau tlodi plant” - Sioned Williams AS
Mae adroddiad newydd ei gyhoeddi ar dlodi gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos bod yn rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd “camau radical ar unwaith” i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru, meddai Sioned Williams AS Plaid Cymru.
Mae'r adroddiad yn nodi, o dan ragamcaniad canolog OBR, mai'r Alban fydd yr unig wlad lle bydd cyfraddau tlodi plant yn gostwng erbyn 2029, gan dynnu sylw at bŵer polisïau nawdd cymdeithasol wrth fynd i'r afael â thlodi.
Mae taliad plant Llywodraeth yr Alban wedi cael ei ystyried yn drawsnewidiol wrth fynd i'r afael â thlodi plant tra bod y weinyddiaeth hefyd yn cymryd camau i liniaru cap budd-dal dau blentyn Llywodraeth y DU.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi cadw'r cap dau blentyn gafodd ei gyflwyno gan y Torïaid yn 2017, er bod dadansoddiad yn dangos y byddai ei ddileu yn codi 250,000 o blant allan o dlodi dros nos.
Mae llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol wedi erfyn ar Lywodraeth Lafur Cymru i adlewyrchu camau Llywodraeth yr Alban i liniaru effeithiau'r cap ar fudd-daliadau dau blentyn ac archwilio cyflwyno taliad plentyn.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams AS:
“Mae'n amser i Lafur weithredu yn sgil ymchwil damniol newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree ar dlodi plant.
“Mae'n gywilyddus y bydd cyfraddau tlodi plant yn cynyddu ym mhob rhan o'r DU ac eithrio'r Alban dros y blynyddoedd nesaf, hyd yn oed os yw'r economi'n tyfi.
“Gydag amcangyfrif mai Cymru bydd â'r cyfraddau tlodi plant uchaf erbyn 2029, sef 34.4%, mae yna bethau y gallai Llywodraeth Lafur Cymru fod yn eu gwneud ar hyn o bryd i fynd i'r afael â thlodi plant ar ôl gostwng eu targed blaenorol i'w ddileu'n gyfan gwbl.
“Dylai Llywodraeth Cymru fod yn adlewyrchu Llywodraeth yr Alban ac yn cymryd camau i liniaru effaith y cap budd-dal dau blentyn a chyflwynir gan y Torïaid ond mae Keir Starmer bellach yn mynnu ei gadw yn ei le.
“Dylent ystyried cyflwyno taliad plentyn, fel yr Alban, sydd wedi'i alw'n bolisi trawsnewidiol sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar filoedd o deuluoedd.
“Dylai Llywodraeth Lafur Cymru hefyd fod yn ailgyflwyno targedau clir a mesuradwy ar gyfer lleihau tlodi plant ac ymrwymo i wrando ar y lleisiau niferus a feirniadodd eu Strategaeth Tlodi Plant am ddiffyg manylion ac uchelgais.
“Dim ond gweithredu brys a radical o'r math hwn fydd yn dechrau mynd i'r afael â'r pla hwn sy'n rhy gyffredin o lawer yn un o genhedloedd cyfoethocaf y byd.”