LINK yn cytuno i ailedrych ar yr adolygiad yn dilyn apêl gan Aelod o’r Senedd
Mae Sioned Williams AS, Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi sicrhau cytundeb gan LINK i ailedrych ar eu hadolygiad asesiad arian parod, yn sgil tystiolaeth newydd a ddarparwyd gan Ms Williams.
Cwblhaodd LINK asesiad Mynediad Arian Parod ar gyfer Pontardawe ym mis Ionawr, yn dilyn cyhoeddiad Banc Lloyds y byddai’n cau’r gangen yn y dref cyn diwedd y flwyddyn – gan adael Cwm Tawe cyfan heb fanc.
Yng ngoleuni tystiolaeth a gyflwynwyd gan Sioned Williams AS, yn ymwneud â daearyddiaeth yr ardal leol, ffeithiau am drafnidiaeth gyhoeddus yn y cwm, adborth gan drigolion a busnesau yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gan Ms Williams, a phryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Mencap Cymru am effaith cau banciau ar grwpiau penodol o bobl, mae LINK wedi cytuno i ailedrych ar eu hadolygiad cychwynnol.
Mae disgwyl i'r ail-asesiad gymryd 12 wythnos i'w gwblhau.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Rwy’n falch bod LINK wedi cytuno i ailedrych ar eu hadolygiad o asesiad mynediad arian parod ym Mhontardawe, oherwydd bydd y cynllun i gau Banc Lloyds yn y dref yn drychinebus i drigolion a busnesau fel ei gilydd.
“Dyw hi ddim mor hawdd dweud y dylai pobl jest ymweld â changen arall. Oes mae yna fanciau yng Nghastell-nedd sydd dim ond 4.4 milltir i ffwrdd o Bontardawe- yn ôl asesiad LINK - ond bydd unrhyw un sy'n adnabod yr ardal yn sylweddoli'n gyflym mai dyma’r pellter dim ond os byddwch chi'n tynnu llinell syth rhwng y ddwy dref. Os byddwch yn teithio yno ar hyd y ffordd, mae’n llawer pellach a bydd cau Lloyds ym Mhontardawe yn effeithio ar Gwm Tawe i gyd, gyda miloedd o drigolion yn byw hyd yn oed ymhellach i ffwrdd o Gastell-nedd.
“Ers y penderfyniad i gau’r banc, rydw i wedi bod yn brysur yn cyfarfod â thrigolion a pherchnogion busnesau lleol i ddarganfod sut bydd cau’r banc yn effeithio arnyn nhw. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â sefydliadau fel Age Cymru, Mencap Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddeall yr effaith bosibl ar y bobl y maent yn eu cynrychioli.
“Pan ysgrifennais at LINK i apelio yn erbyn eu hasesiad, roeddwn yn gallu defnyddio’r cyfoeth o wybodaeth gan bawb rydw i wedi cyfarfod â nhw i fanylu ar y pryderon ynghylch trafnidiaeth, gallu cyfleusterau arian parod amgen i fodloni’r galw, a’r effaith ar rai o’n dinasyddion mwyaf bregus, y mae nifer ohonynt yn methu â defnyddio bancio ar-lein.”