Plaid Cymru yn galw i adfer targedau i ddileu tlodi plant

Mae plant mewn tlodi angen “mwy na geiriau cynnes” o Lywodraethau Llafur, meddai Sioned Williams AS

Sioned Williams MS is being interviewed for television and a camera can be seen in the foreground, with a small screen showing the shot of Sioned. Sioned Williams MS is standing on the Senedd steps, outside the Senedd building, the glass front of which is visible behind her.

Mae Sioned Williams AS Plaid Cymru wedi disgrifio cyfraddau tlodi plant yng Nghymru fel "sgandal cenedlaethol".

Mae Ms Williams, llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar wedi ysgrifennu at Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, i alw ar Lywodraeth Lafur Cymru i adfer targedau i fynd i'r afael â thlodi plant.

Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru gyfiawnhau dileu ei tharged i ddileu tlodi plant erbyn 2020 o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn rhwystro ei huchelgeisiau i ddiwygio lles, gan ddweud nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r pwerau i wneud newidiadau sylweddol i gyflawni ei nod.

Mae tlodi plant wedi bod yn her barhaus i Lywodraethau Llafur Cymru olynol gyda bron i draean o blant yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi cymharol.

Yn flaenorol, disgrifiodd Llywodraeth Lafur Cymru y terfyn budd-dal dau blentyn a gyflwynwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn 2017 fel "gyrrwr mwyaf tlodi plant".

Er bod 65,000 o blant yng Nghymru wedi eu heffeithio gan y polisi, pleidleisiodd Llywodraeth Lafur newydd y DU yn erbyn cael gwared â'r cap.

Mae Sioned Williams AS wedi dweud na all Llywodraeth Lafur Cymru "guddio tu ôl i'r Torïaid mwyach".

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar, Sioned Williams AS:

“Dylai'r ffaith bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi fod yn achos sgandal cenedlaethol.

“Mae Llafur yng Nghymru, sydd wedi llywyddu dros y sefyllfa drychinebus hon, wedi bod yn gyflym i roi'r bai ar ddrws San Steffan - gan nodi diffyg pŵer dros ddiwygio lles fel y rheswm dros gael gwared ar dargedau eu hunain i ddileu tlodi plant.

“Er bod cyni Torïaid wedi bod yn niweidiol iawn i Gymru, gyda Starmer bellach wrth y llyw yn San Steffan, ni all Llywodraeth Lafur Cymru guddio tu ôl i'r Torïaid mwyach. Wedi'r cyfan, addawyd pobl Cymru y byddai Llywodraethau Llafur ar naill ben yr M4 yn dod â 'newid' i'n cymunedau.

“Gyda chymaint o deuluoedd yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd, a thlodi yn effeithio ar iechyd ac addysg plant, nawr yw'r amser i fod yn fentrus a dangos bod dwy Lywodraeth Lafur yn 'gweithio gyda'i gilydd' yn golygu mwy na geiriau cynnes yn unig.

“Os yw Llywodraeth Lafur Cymru o ddifrif am fynd i’r afael â thlodi plant, rhaid iddynt ddangos pa gamau y maen nhw wedi'u cymryd i gyflawni nodau eu strategaeth tlodi plant, a chadarnhau y bydden nhw nawr yn adfer targedau mesuradwy i ddileu tlodi plant. Mae unrhyw beth llai yn golygu bod Llafur yn methu cenedlaethau'r dyfodol.”

 

Llythyr

Ysgrifennodd Sioned Williams AS at Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ar 12 Awst 2024 (yn Saesneg):

Dear Cabinet Secretary

As you know, when the Welsh Government dropped its target to end child poverty in Wales by 2020 in 2016, the then Communities Secretary stated that this was because UK Government policies had made the target unachievable.

One of the policies cited was the welfare reform programme, and the fact that the Welsh Government did not have the power needed to make the changes needed to reach its stated goal.

Currently the Welsh Government's Child Poverty Strategy contains no targets, and as such has been roundly criticised by the Children’s Commissioner, the Equality and Social Justice Committee and numerous children’s organisations and anti-poverty groups in Wales.

Given the result of July’s General Election, could you please inform me what policy changes the Welsh Government will be asking of the current UK Government which will help the Welsh Government fulfil the aims of its child poverty strategy, and will targets to end child poverty be reinstated by Welsh Government now that a Labour UK Government is in power?

Yn gywir / Yours faithfully,

Sioned Williams AS/MS

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd