AS Plaid yn 'siomedig' gydag ymateb y Prif Weinidog ar ad-drefnu ysgolion

Mae’r Aelod o Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams wedi mynegi ei “siom” yn sgil ymateb “anfoddhaol” y Prif Weinidog i bryderon a godwyd ynghylch y cynlluniau i ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe.

Ysgrifennodd Sioned Williams at Lywodraeth Cymru, sydd dan reolaeth Lafur, ym mis Hydref Galw ar y Gweinidog Addysg i achub ysgolion Cwm Tawe - Sioned Williams AS (Cymraeg) yn galw iddynt ymyrryd i atal Cyngor Castell-nedd Port Talbot rhag gau ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg. Yn ei llythyr, beirniadodd gynlluniau "cwbl ddiffygiol” y Cyngor sydd hefyd dan reolaeth Lafur.

Wrth ymateb i ymateb y Prif Weinidog i’w llythyr, dywedodd Sioned Williams:

"Rwy’n siomedig iawn gydag ymateb cwbl annigonol ac anfoddhaol y Prif Weinidog i’m llythyr yn gwrthwynebu cau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe. Roeddwn wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei allu i wyrdroi penderfyniad Cyngor CNPT; fodd bynnag, nid yw ymateb Mark Drakeford yn ymrwymo i wneud hyn ac nid yw ychwaith yn ateb yn ddigonol unrhyw un o fy mhryderon ynghylch yr effaith niweidiol y bydd penderfyniad Cyngor CNPT yn ei gael ar y cymunedau yng Nghwm Abertawe yr wyf yn eu cynrychioli.

"Mae'n amlwg i mi y bydd y penderfyniad i gau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe yn: torri'r cysylltiad rhwng addysg a'r gymuned leol, arwain at lai o ddarpariaeth addysg i blant o gefndiroedd difreintiedig, arwain at ddirywiad yn ansawdd yr aer o ganlyniad i gynnydd mewn tagfeydd a thraffig, lleihad mewn mannau gwyrdd lleol ac yn cael effaith hynod ddinistriol ar y Gymraeg. Mae anfanteision y cynlluniau yn amlwg yn llethol ac yn haeddu ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

"Bydd y diffyg arweinyddiaeth hwn gan Lywodraeth Cymru yn tristáu disgyblion, rhieni a thrigolion yr ardal. Rwy'n annog Cyngor CNPT i edrych eto ar ei benderfyniad ac ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd os oes angen."

Cliciwch yma i ddarllen llythyr Sioned Williams i'r Llywodraeth a gweler ymateb y Prif Weinidog isod:

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd