Gweithredu i daclo tlodi tanwydd

Fe ailadroddodd yr Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Sioned Williams heddiw ei galwadau ar Lywodraeth Cymru i "weithredu nawr" ar dlodi tanwydd.

smart meter

Yn ystod dadl yn y Senedd heddiw ar gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru "i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt", cododd Sioned Williams yr angen i ddatganoli pwerau dros ddosbarthu a chyflenwi nwy a thrydan, yn ogystal ag hawliau defnyddwyr, i Gymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:

“Mae'n sgandal cenedlaethol bod 600,000 o bobl wedi’u gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni. Y ffaith yw, hyd nes y bydd pwerau dros ddosbarthiad a chyflenwad nwy a thrydan, ac amddiffyn defnyddwyr wedi eu datganoli i Gymru, ni fyddwn byth yn gallu bod yn gwbl hyderus y gallwn amddiffyn ein dinasyddion rhag y math hwn o niwed.

“Nid yw’r gwaharddiad dros dro ar osod mesuryddion rhagdalu dan orfodaeth yn 'job done', a, hyd yma, nid yw’r cod ymarfer ar gyfer cyflenwyr yn gyfreithiol orfodadwy. Fel y mae’r cynnig yn ei wneud yn glir, mae lefelau tlodi tanwydd yn ddifrifol yng Nghymru, a gallai hyn ddyfnhau hyd yn oed ymhellach. Mae'r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu fel arfer yn cael trafferth nid yn unig gyda chostau byw, ond hefyd gyda dyledion."

Aeth Sioned Williams, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Senedd, ymlaen i bwyso ar Lywodraeth Cymru i egluro pryd yn union y byddai ei rhaglen Cartrefi Cynnes yn weithredol:

"Rhaid i ni gyflymu'r broses o wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi tanwydd-anghenus yng Nghymru. Yr hyn rydym wedi'i gael hyd yma, gan y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, a'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yw ymrwymiad cenedlaethol newydd y bydd cynllun a arweinir gan alw, sy’n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd, yn cael ei gaffael erbyn diwedd y flwyddyn, ac ni fyddai unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth rhwng y rhaglenni newydd a’r rhaglenni presennol.

"Felly, byddwn yn gofyn eto, Weinidog: pryd y bydd y cynllun a arweinir gan alw, sy'n canolbwyntio ar y rhai sydd ar yr incwm isaf, sy'n byw yn y cartrefi lleiaf ynni-effeithlon, yn weithredol?"

Pasiwyd y cynnig.

Gwyliwch gyfraniad Sioned Williams isod:

Llun:Photo by Arthur Lambillotte on Unsplash  

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd