AS yn galw am achub Theatr Fach Castell-nedd

“Os nad ydyn ni’n dod at ein gilydd i achub lleoliadau fel hyn, rydyn ni’n colli mwy nag adeilad yn unig” - Sioned Williams AS

Sioned Williams MS stands with members of Neath Little Theatre on the stage of the now closed venue.

Mae’r Aelod Senedd Plaid Cymru lleol, Sioned Williams AS, wedi cefnogi ymgyrch Theatr Fach Castell-nedd i godi arian ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Bu Ms Williams yn ymweld â'r theatr yr wythnos hon ar ôl clywed am yr ymgyrch i achub yr adeilad.

Sefydlwyd Theatr Fach Castell-nedd ym 1935 a dylai fod yn y broses o gynllunio dathliadau ei phen-blwydd yn 90 ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, yn dilyn arolwg diweddar ar yr adeilad a argymhellodd gau dros dro, mae ymddiriedolwyr nawr yn edrych ar ffyrdd o ariannu gwaith cynnal a chadw  hanfodol yr amcangyfrifwyd y bydd yn costio dros £200,000.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Nid lleoliad ar gyfer perfformiadau rheolaidd yn unig yw’r lleoliad hanesyddol ac unigryw hwn, mae’n hwb cymunedol llewyrchus a chefnogol sy’n dod â’r celfyddydau i bobl Castell-nedd. Pe na bai’r theatr hon yn gallu ariannu’r gwaith adfer, byddai hyn yn golled enfawr i’r gymuned leol, felly rwy’n gwbl gefnogol i’w hymdrechion i oresgyn yr argyfwng hwn a dod yn ôl yn gryfach.

“Mae gennym ni gymaint i fod yn falch ohono yng Nghastell-nedd, ac mae Theatr Fach Castell-nedd yn rhan o’n treftadaeth gyfoethog ac amrywiol. Nid yn unig oherwydd y cynyrchiadau arobryn, ond hefyd y cyfleoedd a roddir i’r gymuned leol i gymryd rhan mewn cymaint o wahanol weithgareddau. Os na fyddwn ni’n dod at ein gilydd i achub lleoliadau fel hyn, rydyn ni’n colli mwy nag adeilad yn unig.”

Dywedodd Janet Francis Jones, aelod o Theatr Fach Castell-nedd:

“Am y 90 mlynedd diwethaf ein nod fu meithrin ymdeimlad o gymuned, cariad at y celfyddydau a dod â chyfleoedd drama ac addysgiadol i bobl Castell-nedd a’r cyffiniau. Rydym yn hynod falch o’n theatr, ein noddwyr, ein cefnogwyr ffyddlon a’n tîm ymroddedig o wirfoddolwyr, ond mae angen help arnom i sicrhau y gallwn ail-agor ein drysau a pharhau i ddarparu theatr o safon i’r gymuned am y 90 mlynedd nesaf.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd