Cefnogi hygyrchedd i bobl ag anableddau dysgu

Gofynnodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS, i Lywodraeth Cymru ymateb i ddeiseb gan elusen anableddau dysgu yn galw ar leoliadau a ariennir yn gyhoeddus sicrhau eu bod yn cynnig yr opsiwn i dalu ag arian parod.

Mewn cwestiwn ddoe i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, dywedodd Sioned Williams, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Senedd:

“Rwy’n falch iawn o fod yn Gadeirydd ar Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anableddau Dysgu, ac yn anffodus mae’r anghydraddoldeb a wynebir gan bobl ag anableddau dysgu mewn bywyd bob dydd yn bwnc trafod rheolaidd yn ein cyfarfodydd.

“Dros y misoedd diwethaf, mae [yr elusen anableddau dysgu] Mencap Cymru wedi clywed gan lawer o bobl sy’n pryderu bod mwy a mwy o fusnesau a sefydliadau yn symud at daliadau di-arian yn unig ar gyfer eu nwyddau a’u gwasanaethau. Nid oes gan nifer o bobl ag anabledd dysgu fynediad i'w cyfrifon banc eu hunain, ac i nifer eraill, efallai taw dim ond gyda cherdyn y bydd eu cardiau'n caniatáu iddynt godi arian parod. Oherwydd hyn, ni all lawer o bobl ag anableddau dysgu dalu am bethau bob dydd na chael mynediad cyfartal i lawer o siopau, bwytai a chyfleusterau hamdden.

“Ond er efallai nad oes gan unigolyn ag anabledd dysgu y gallu i reoli cyfrif banc, neu ddefnyddio cardiau debyd neu gredyd, yn sicr mae ganddyn nhw’r gallu i ddefnyddio arian parod, ac mae hyn yn rhan bwysig o’u hannibyniaeth; mae’n eu helpu gyda chyllidebu, gan sicrhau nad ydynt yn mynd i ddyled. Felly, Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i alluogi pobl ag anableddau dysgu dalu am bethau ag arian parod lle bynnag a phryd bynnag y mae angen iddynt wneud hynny, er mwyn iddynt allu cadw eu hannibyniaeth a'u hyder, a chymryd rhan lawn mewn cymdeithas? A wnewch ymateb i’r galwadau a wnaed gan ddeiseb Mencap Cymru ar leoliadau a ariennir yn gyhoeddus neu’r rhai sy’n derbyn grantiau i sicrhau eu bod yn cynnig yr opsiwn hwn?"

Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS ei bod wedi ysgrifennu’n ddiweddar at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant AS, yn ymateb i’r ddeiseb honno.

Daeth y ddeiseb, sydd wedi derbyn 1,926 o lofnodion, i ben ddydd Llun ac mae bellach yn cael ei hystyried gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd.

Gwyliwch gwestiwn Sioned Williams isod:

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd