Ymatebion arolwg AS yn “dangos cryfder teimladau lleol” am ddyfodol Castell-Nedd

Mae arolwg a lansiwyd gan Aelod Senedd lleol am ddyfodol Castell-nedd yn dangos bod balchder gan bobl yng nghanol y dref ond bod effaith cau M&S wedi creu pryder

A photograph of the clock outside of the Neath M&S

Mae Sioned Williams AS, sydd wedi bod â’i swyddfa etholaeth yng Nghastell-nedd ers iddi gael ei hethol, yn dweud ei bod “wedi ei syfrdanu” gan yr ymateb i’w harolwg am Gastell-nedd.

Mae’r arolwg, sydd ar agor tan ddiwedd mis Mai 2024 eisoes wedi cael ymatebion gan dros 160 o drigolion a busnesau mewn ychydig dros bythefnos, ac mae’n gofyn cwestiynau am yr hyn y mae pobl yn ei hoffi am y dref, yr heriau y mae ei hwynebu a’r gwelliannau yr hoffent eu gwneud.

Er bod ymatebwyr wedi dangos ymdeimlad clir o falchder yn hanes cyfoethog Castell-nedd a’i hysbryd cymunedol, mae gan dros hanner yr ymatebwyr farn negyddol am y dref ac mae bron pob un o’r ymatebwyr yn meddwl y gallai’r dref gael ei marchnata’n well.

Heb os, mae’r diffyg positifrwydd am ddyfodol y dref yn cael ei ddwyshau gan y newyddion y bydd Marks and Spencer’s yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn 18 Mai 2024, a dyna’n rhannol oedd y rheswm y teimlai Ms Williams y dylai gynnal yr arolwg.

Fe wnaeth y newyddion am gau'r siop ysgogi dau o drigolion lleol weithio gyda grwpiau o gwsmeriaid M&S Castell-nedd, i gynnal ymgyrch i gadw'r siop ar agor.

Er na lwyddodd eu hymgyrch i berswadio penaethiaid M&S i gadw’r siop ar agor, cynhaliwyd seremoni wobrwyo i ddangos gwerthfawrogiad i aelodau’r staff a’u blynyddoedd o wasanaeth ymroddedig i’r gymuned. Roedd Ms Williams yn falch iawn o allu cyflwyno tystysgrifau i staff a dymuno'n dda iddynt.

Sioned Williams MS stands with two members of staff at M&S Neath, together with Coralie Phillips and Donna Roach who were behind the video ‘The Heart of Neath - A Video Message’ which was a plea to M&S Neath to stay.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae Castell-nedd yn dref fendigedig – gyda’i marchnad wych a hanesyddol, ei phrif orsaf drenau a’i hamrywiaeth o siopau a chaffis annibynnol – mae’n ganolbwynt go iawn i’r gymuned ac yn un o’r rhesymau i mi ei dewis ar gyfer fy lleoliad yn swyddfa’r Senedd.

“Ond mae’r newyddion am gau Marks and Spencer ar ôl 89 mlynedd o fasnachu llwyddiannus wedi taro’r bobl leol yn galed, ac mae’n amlwg bod angen meddwl o’r newydd am ddyfodol canol ein tref. Dyna un o’r rhesymau pam wnes i lansio fy arolwg, er mwyn cael barn y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn siopa yng nghanol tref Castell-nedd.

“Mae’r ymateb i’m harolwg hyd yn hyn wedi bod yn aruthrol ac mae wir yn dangos cryfder y teimladau am ddyfodol canol tref Castell-nedd. Mae’n amlwg bod pobl eisiau gweld cynllun gweithredu ar gyfer y dref, sy’n mynd i’r afael â’r siopau gwag, yr angen am well cysylltiadau trafnidiaeth a mwy o ddigwyddiadau cymunedol.

“Rydyn ni’n falch o’n tref, ond am yn rhy hir rydyn ni’n teimlo nad yw hi wedi ei datblygu i’w llawn botensial. Byddwn yn annog pobl i lenwi fy arolwg, gan y bydd hyn yn llywio fy nghwestiynau i’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn well o ran manteisio ar y cyfleoedd hyn a’u gwireddu.”

Mae'r arolwg ar agor tan ddiwedd mis Mai 2024. I ddweud eich dweud, cliciwch yma.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd