Mae Plaid Cymru yn cynnig “newid positif” i Gymru – Rhun ap Iorwerth
Heddiw (dydd Iau 14eg o Dachwedd) yn nodi 100 diwrnod ers i’r Prif Weinidog, Eluned Morgan gymryd ei rôl fel Prif Weinidog Cymru Mae dydd Iau 14eg o Dachwedd.
Dywedodd y Prif Weinidog mae ei blaenoriaethau ei Llywodraeth yw i dorri rhestrau aros, sicrhau twf economaidd a chreu swyddi i helpu taclo newid hinsawdd, cynyddu safonau addysgiadol a chysylltu cymunedau.
Wrth ymddangos ar BBC Cymru Fyw neithiwr (nos Fercher 13 Tachwedd 2024), dywedodd Sioned Williams AS, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru, ac yn siarad dros Blaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol, fod y Prif Weinidog wedi methu gwrando ar leisiau plant yng Nghymru i fynd i'r afael â “sgandal genedlaethol” tlodi plant.
Yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 2024, siaradodd y Prif Weinidog am sut y byddai dwy Lywodraeth Lafur yn y DU o fudd i Gymru. Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y buddion hyn heb eu gwireddu gan fod Cymru yn dal i gael ddim yn cael y £4BN o gyllid HS2, datganoli Ystâd y Goron nag ddiwygiad o fformiwla Barnett - rhai o ofynion allweddol Plaid Cymru.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:
“Mae 100 diwrnod cyntaf y Prif Weinidog yn nodi mwy o’r un peth i Gymru: Does dal ddim cynllun i fynd i afael â rhestrau aros y gwasanaeth iechyd sydd ar ei uchaf erioed, dim manylion am sut y byddan nhw’n gwella’r system addysg, dim strategaeth i dyfu’r economi, sy’n golygu fod diffyg swyddi sy'n talu'n dda, ac mae’r system drafnidiaeth gyhoeddus yn dal i adael cymunedau wedi’u ddatgysylltu.
“Dywedodd y Prif Weinidog ei hun wrthym mai dyma oedd ei blaenoriaethau pan ddaeth yn ei swydd. Dywedodd hefyd y byddai dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio o fudd i Gymru, er hyn mae’r £4BN sy'n ddyledus i Gymru o HS2 dal yn cael ei wrthod gan San Steffan, ac does dim unrhyw arwydd o ddatganoli Ystâd y Goron nag model ariannu tecach.
“Rydyn ni’n gwybod bod Cymru’n haeddu gwell. Mae Plaid Cymru yn cynnig y newid cadarnhaol y mae ein pobl yn gofyn yn daer amdano. Byddwn ni’n mynd yn ôl at yr hanfodion: trwsio’r gwasanaeth iechyd, rhoi’r offer i bobl ifanc lwyddo, ailadeiladu’r economi, a mynnu tegwch o San Steffan – dyma’r lleiaf y dylai unrhyw lywodraeth ei wneud.”