Gwybodaeth gefndir am yr ad-drefnu arfaethedig

Mae llawer o drigolion Pontardawe, Trebanos, Godre'rgraig ac Alltwen a'r ardaloedd cyfagos yn poeni am y cynlluniau i greu am ysgol gynradd fawr newydd ym Mhontardawe ar safle Ysgol Cwmtawe. Bydd y cynlluniau fel y maent yn cael effaith fawr ar Bontardawe a’r cymunedau cy-fagos a chredaf fod yr adroddiad a'r ymgynghoriad ar y cynlluniau a gyhoeddwyd gan Gyngor CNPT wedi codi nifer o gwestiynau a materion allweddol.

  • Mae'r ymgynghoriad ei hun yn ddogfen anfoddhaol iawn. Pam mae’r opsiynau'n sy’n cael eu darparu mor gul, heb roi unrhyw gyfle i drafod y cynigion yng nghyd-destun pob ysgol unigol? Mae'n ymddangos mai’r dewis yw naill ai derbyn y cynnig yn ei gyfanrwydd neu ei wrthod.
  • Oni ddylid delio ag achos pob ysgol ar wahân - gan fod y pryderon a'r cyd-destun ar gyfer pob ys-gol yn wahanol? Er enghraifft, bydd disgyblion yn ysgol Godre’rgraig yn cael eu heffeithio gan y ffaith na fyddant yn gallu cerdded na beicio i'r ysgol, nac yn gallu cyrchu darpariaeth feithrinfa heb fod ganddynt gar. Mae hyn hefyd yn wir am rieni disgyblion oed meithrin yn Ysgol Llangiwg.
  • Pam nad oes opsiwn i gefnogi unrhyw safle arall ac eithrio'r un arfaethedig ger Ysgol Cwmtawe? Pwrpas ymgynghoriad cyhoeddus i fod ywcasglu barn gan y rhai y bydd y newid yn effeithio arnynt ac annog awgrymiadau yn hytrach na chyfyngu ar drafodaeth.
  • Mae ysgolion wrth galon bywyd cymunedol. Pam nad yw'r ymgynghoriad yn ymdrin yn llawn â'r cwestiwn o’r effaith ehangach ar gymuned pob ysgol? Byddai hyn yn cynnwys yr effaith ar fus-nesau lleol.
  • Pam nad yw'r adroddiad yn adlewyrchu effaith y cynlluniau ar nod a thargedau'r awdurdod lleol ei hun o ran datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Cwmtawe , sef yr effaith ar nifer y disgybli-on yn YGG Trebannws, YGG Pontardawe a'r effaith hir dymor ar niferoedd YG Ystalyfera Bro Dur?
  • Pam nad yw argyfwng Covid-19 wedi llywio'r adroddiad hwn mewn unrhyw ffordd? Rydym yn gwybod y gallai aros yn lleol a chadw mewn grwpiau llai mewn pob math o gyd-destunau fod yn hanfodol i’r dyfodol, hyd yn oed y tu hwnt i'r dyddiad agor arfaethedig ar gyfer yr ysgol newydd efallai.

Yn ychwanegol at y pryderon hyn mae goblygiadau rhyddhau recordiad honedig o Arweinydd Cyn-gor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones sydd bellach wedi gorfod rhoi'r gorau i'w rôl ac mae’r ymchwiliad i’w ymddygiad yn digwydd ar hyn o bryd. Ymddengys bod yr agwedd a ddan-gosir ganddo tuag at y rhai sydd wedi bod yn lleisio eu barn ynghylch cau ysgolion yng Nghwm Tawe, ynghyd â bod yn sinigaidd ac yn amharchus, hefyd yn dangos rhag-benderfyniad ar y pen-derfyniad y bydd y cabinet yn ei wneud am yr ad-drefnu ysgolion.

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar yr Ymgynghoriad ar 28 Mai 2021. Gallwch ei ddarllen yma.

Mae'n amlwg o'r adroddiad ar yr ymgynghoriad bod mwyafrif llethol yr ymatebwyr yn gwrthwyn-ebu'r cynlluniau i gau Ysgolion Alltwen, Godre'rgraig a Llangiwg ac mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd i'r cynlluniau yn y cymunedau y mae’r ysgol newydd i fod eu gwasanaethu.

Credaf ei bod yn hanfodol nad yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio gorfodi’r cynllun hwn ar drigolion, cynllun nad yw wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth na gyda chefnogaeth y gymuned. Byddwn yn annog y cyngor i chwilio am atebion mwy priodol i'r cwestiynau y mae'r ymgynghoriad yn eu codi, a bod yr atebion hynny'n ffocysu ar anghenion addysgol yn unig, heb unrhyw gyfeiriad er enghraifft at ddatblygu cyfleusterau hamdden.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben cyn i’r recordiad o gyn-Arweinydd y Cyngor, Rob Jones ddod i’r amlwg. Felly mae hefyd angen mynd i'r afael â'r pryderon mawr sy’n bodoli ynghylch rôl y Cy-nghorydd Rob Jones yn natblygiad y cynlluniau hyn.

Byddaf nawr yn ysgrifennu at Brif Weithredwr ac Arweinydd cyngor CNPT i godi'r pwyntiau hyn a chynnig ymateb manwl i'r adroddiad.

Mae gwleidyddion Llafur mewn grym ar lefel Cyngor, y Senedd a San Steffan yng Nghastell-nedd. Byddaf yn parhau i roi pwysau arnynt i wrando ar leisiau ein cymunedau.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd