AS Plaid yn lleisio pryderon difrifol ynghylch dyfodol gwasanaethau bysiau

Mae Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi lleisio ei phryderon difrifol ynghylch dyfodol ansicr y Cynllun Argyfwng Bysiau (BES) a’r effaith y byddai hynny’n ei gael ar drigolion Castell-nedd Port Talbot a chymunedau ledled rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Roedd y cynllun yn un o’r mesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu gweithredwyr gwasanaethau bysiau drwy’r pandemig. Y disgwyliad oedd y byddai nifer y teithwyr yn cynyddu’n ôl i’r lefelau yr oeddent cyn y pandemig ac na fyddai felly angen i’r cynllun barhau. Ond nid yw nifer y teithwyr wedi dychwelyd i'r lefelau blaenorol, gan adael gweithredwyr bysiau'n ddibynnol ar y cynllun i gynnal gwasanaethau.

Roedd disgwyl i’r cynllun ddod i ben ym mis Mawrth, ond yn ddiweddar fe gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd estyniad – estyniad am dri mis yn unig.

Dywedodd Sioned Williams:

“Er fy mod yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi estyniad i’r Cynllun Argyfwng Bysiau, mae gennyf bryderon difrifol am yr effaith y bydd y toriad trychinebus hwn mewn cymorth yn ei gael ar wasanaethau bysiau yng Nghastell-nedd Port Talbot ac ar draws rhanbarth Gorllewin De Cymru.

“Rwyf wedi derbyn gohebiaeth yn ddiweddar gan awdurdodau lleol, cwmnïau bysiau a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus sy’n rhannu fy mhryderon ac yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ar unwaith i ddiogelu’r rhwydweithiau hanfodol hyn.

“Mae bysiau’n wasanaethau hanfodol. Maent yn hanfodol gan eu bod yn galluogi i bobl deithio i ac yn ôl o’u gwaith, ac hefyd yn eu galluogi i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus a hamdden. Maent yn rhan hanfodol o’n huchelgeisiau ar gyfer lleihau allyriadau carbon, mynd i’r afael ag unigedd ac ehangu mynediad at swyddi a chyfleoedd. Mae adeiladu rhwydwaith cynhwysfawr, cynaliadwy o fysiau aml, dibynadwy a fforddiadwy yn gofyn am gynllun a chyllid priodol. Mae Llywodraeth Cymru yn methu â chyflawni’r ddau beth yma.”

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (14 Chwefror), holodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price AoS Lywodraeth Cymru ynghylch y toriadau posibl hyn, lle dyfynnodd Brif Weithredwr Cyngor CNPT, Karen Jones a ddywedodd mewn ymateb i lythyr gan Sioned Williams: “ei bod yn wyrdroedig  bod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i ddarparu teithio cynaliadwy, gyda’r cyhoedd yn cael eu hannog i ddibynnu llai ar drafnidiaeth breifat, ond fod penderfyniadau ariannu, fel y cynigir yma, yn mynd i orfodi mwy o bobl i deithio mewn car, gan beryglu amcan y polisi”.

Wrth ymateb i’r ateb a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru dywedodd Sioned Williams:

“Yn ei hymateb i gwestiwn Plaid Cymru i Lywodraeth Cymru, dywedodd Lesley Griffiths fod y cyllid wedi’i ymestyn am dri mis er mwyn rhoi ‘gofod’ i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, i ‘anadlu’. Tra bod hyn yn wir o bosib, mae’n glir i mi nad defnyddwyr bysiau fydd yn mwynhau’r ‘gofod anadlu’ hwn; nhw yw'r rhai sy'n gorfod dal eu gwynt, yn ofni'r hyn a allai ddigwydd ar ôl tri mis, yn ofni'r posibilrwydd y gallent golli eu swydd neu eu gallu i weld anwyliaid. Mae hyn yn annerbyniol.”

Ac mewn cwestiwn i’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, gofynnodd Sioned Williams a allai’r Gweinidog roi sicrwydd i bobl Castell-nedd Port Talbot y bydd eu gwasanaethau bws yn parhau yn eu lle. Fodd bynnag, ni ddararodd Llywodraeth Cymru y sicrwydd hwn yn eu hymateb i Sioned Williams. Gwyliwch y cyfnewid isod:

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd