Llywodraeth Cymru yn gwrthod galwad Plaid Cymru am ymchwiliad cyhoeddus i gau Ysgol Godre’rgraig

Mae AS Plaid Cymru, Sioned Williams, wedi ymateb gyda siom ar ôl i Lywodraeth Cymru wrthod cynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r amgylchiadau yn ymwneud â chau Ysgol Godre’rgraig.

Roedd Sioned Williams wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS, yn galw am ymchwiliad, yn dilyn pryderon a godwyd yn lleol i'r modd yr ymdriniwyd â'r holl sefyllfa.

Cafodd yr ysgol ei symud o'i lleoliad gwreiddiol ym mis Gorffennaf 2019 oherwydd ar ôl i risg bosibl gael ei nodi o symudiad o fewn tomen rwbel y tu ôl i'r ysgol. Ers hynny, mae'r ysgol wedi'i lleoli ar safle dros dro ym Mhontardawe.

Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot bellach wedi cytuno i gau’r ysgol yn barhaol fel rhan o gynlluniau i greu ysgol gynradd newydd enfawr ym Mhontardawe, sydd bellach yn destun cyfnod ymgynghoriad statudol.

Dywedodd Sioned Williams:

“Rwy’n credu’n gryf bod angen ymchwilio’n drylwyr i’r amgylchiadau sy’n ymwneud â chau Ysgol Godre’graig, a dyma pam rwyf wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus.

“Pan gaeodd yr ysgol, fe sichawyd disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yr ysgol fod y cam yn un dros dro. Fodd bynnag, mae'r Cyngor nawr wedi cynnig cau’r ysgol yn barhaol, ac o ystyried rhyddhau'r recordiad o sylwadau cyn-arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, yr honnir eu bod yn datgelu ei farn ar y cynlluniau ar gyfer ad-drefnu ysgolion, sy'n cynnwys Ysgol Godre'rgraig, mae yna bryder mawr yn lleol na ddatgelwyd y rhesymau dros y cau yn llwyr.

“O ganlyniad maen yna deimlad nad oedd yr ymgynghoriad diweddar i gau’r ysgol yn ffurfiol a chreu ysgol gynradd enfawr newydd ym Mhontardawe yn ystyrlon. Nid yw trigolion lleol yn ymddiried yn yr hyn y mae'r Cyngor Llafur yn ei ddweud wrthyn nhw a dyma pam rydw i eisiau gweld ymchwiliad allanol, annibynnol.”

Arwydd ysgolion

Ychwanegodd yr AS Plaid Cymru:

“Er bod y Cyngor dan arweiniad Llafur wedi cymryd camau i symud yr ysgol ar sail diogelwch, un o’r opsiynau y maent yn ei hystyried ar hyn o bryd yw dymchwel yr ysgol a defnyddio’r safle er budd cymunedol.

“Mae trigolion lleol yn llygad eu lle wrth ofyn sut all yr opsiwn hwn fod yn ystyriaeth ymarferol? Os nad yw'r ardal yn ddigon diogel ar gyfer ysgol, pam ei bod yn ymddangos yn ddigon diogel at ddefnydd y gymuned?

“Mae yna nifer enfawr o gwestiynau wedi eu codi yn lleol ynglŷn â sut mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi delio â’r sefyllfa hon, ac yn syml iawn, nid yw pobl yn ymddiried yn yr hyn sy’n cael ei ddweud wrthyn nhw.”

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi, os oes gan aelodau’r gymuned bryderon ynghylch y ffordd yr ymdriniodd yr awdurdod lleol â chau’r ysgol dros dro, dylent godi’r rhain yn uniongyrchol gyda’r awdurdod lleol ac y dylai unrhyw faterion neu bryderon ynghylch y cynnig statudol i gau’r ysgol gael eu codi fel rhan o'r broses ymgynghori.

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Ymddengys nad yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod pobl leol wedi gwneud eu barn yn hysbys i’r awdurdod lleol ond yn teimlo bod eu barn wedi cael ei hanwybyddu. Dyma pam mae angen ymholiad allanol, annibynnol arnom.

“Mae’n arbennig o siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynnal ymchwiliad i’r sefyllfa o ystyried lefel pryder y cyhoedd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd