Dolen i'r Hysbysiad Statudol

Dyma'r ddolen i'r Hysbysiad Statudol a gyhoeddwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyda'r nod o gau'r ysgolion cynradd sy’n gwasanaethu Godre’rgraig, yr Alltwen a Llangiwg, ac adeiladu  ysgol gynradd enfawr newydd ym Mhontardawe.

https://www.npt.gov.uk/media/15817/statutory-notice.pdf?v=20210617091947&fbclid=IwAR1TH6CqVP_q8u-b_nbfkE9JkeHJkFq81S0pqivxX6Qt7wirUk38

Mae'r ymgynghoriad ffurfiol hwn ar agor tan 14 Gorffennaf.

Rhaid anfon unrhyw wrthwynebiadau yn ysgrifenedig at y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes (at sylw tîm y Rhaglen Gwella Ysgolion Strategol) yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot. SA13 1PJ neu drwy e-bost at [email protected]

Hyd yn oed os ydych wedi cyflwyno sylwadau / gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori blaenorol, mae angen i chi gyflwyno gwrthwynebiad o’r newydd er mwyn i'ch barn gael ei chyfrif.

Byddaf yn cyflwyno gwrthwynebiad fel Aelod Rhanbarthol Plaid Cymru yn y Senedd a phreswylydd yn yr Alltwen gan fy mod yn cefnogi barn mwyafrif llethol yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad, sy'n dangos mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd i'r cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd enfawr newydd yn y gymuned y mae i fod i’w gwasanaethu. Mae croeso i chi anfon eich barn ataf ar y mater hwn ond cofiwch gyflwyno'ch gwrthwynebiad eich hun gan ddefnyddio'r manylion uchod, os ydych chi am wneud hynny.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd