Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer Cynllun Gweithredu Tlodi Plant yng Nghymru

Cyflwyno dadl am yr angen am gynllun tlodi, wedi i Lafur gael gwared ar darged

Sad child

Ar wythnos olaf busnes y flwyddyn yn y Senedd, fe alwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i adfer cynllun Gweithredu ar Dlodi Plant.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ond gollyngwyd y targed yn 2016.

Fe ddefnyddiodd Plaid Cymru ddoe (dydd Mercher 14 Rhagfyr, 2022) ddadl olaf y tymor i alw ar Lywodraeth Llafur Cymru i weithredu ar dlodi plant, a hynny wrth feirniadu'r penderfyniad i ollwng y cynllun i fynd i'r afael â thlodi plant a pheidio mynd ati i osod un newydd.

 

Mae pryderon wedi eu codi am ddiffyg targed gan sawl asiantaeth ac elusen wahanol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, sydd wedi dweud:

“Ar hyn o bryd Cymru yw'r rhan waethaf yn y DU o ran tlodi plant ac rydyn ni hefyd yn profi'r tlodi plant gwaethaf ers nifer o ddegawdau.

“Heb dargedau mae'n anodd iawn i mi wneud fy ngwaith a dwyn llywodraeth Cymru i gyfrif a wir gweld pa mor dda maen nhw'n gwneud neu pa mor wael yr ydym yn ei wneud.

“Mae gosod targedau clir ac uchelgeisiol yn rhan o'r ateb yn unig a dwi'n galw am hyn er mwyn fy helpu i gyflawni fy swydd, ac er mwyn helpu plant a phobl ifanc i ddod allan o'r sefyllfa enbyd maen nhw'n cael eu hunain ynddi ar hyn o bryd.”

 

Yn siarad cyn y ddadl, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS :

“Mae'r argyfwng costau byw presennol wedi gwaethygu lefelau tlodi plant yng Nghymru heb os, ond roedd y lefelau hynny eisoes yn gywilyddus o uchel, gan olygu bod teuluoedd Cymru'n rhy agored i sioc economaidd. 

“Ynghyd â nifer o ymgyrchwyr gwrthdlodi ar draws Cymru, y Comisiynydd Plant a Swyddfa Archwilio Cymru, mae Plaid Cymru yn glir bod angen strategaeth newydd gyda thargedau i sicrhau bod y gwaith brys sydd ei angen i ddileu staen tlodi plant yn effeithiol.

“Mae Plaid Cymru wedi codi hyn dro ar ôl tro yn y Senedd, ac mae'n hollol ddigalon ein bod ni'n gorfod trafod y peth unwaith eto. Rydym yn falch bod camau hanfodol fel prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd yn cael eu darparu erbyn hyn o ganlyniad i’n Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, ond mae cymaint mwy sydd angen ei wneud. 

“Bydd strategaeth gyda thargedau yn gyrru'r gwaith hwnnw ar draws y llywodraeth ac yn sicrhau bod angen canolbwyntio a phenderfyniad er mwyn dod â thlodi plant i ben.”

Darllenwch y dadl lawn yma.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd