Croesawu gweithredu i gwtogi ciwiau fferyllfeydd

Mae AoS Plaid Cymru Sioned Williams wedi croesawu sicrwydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei fod yn gweithredu ar bryderon a godwyd gan drigolion ynghylch gwasanaethau fferyllol ym Mhontardawe, ond ailadroddodd ei chefnogaeth dros agor trydedd fferyllfa yn y dref fel “rhan allweddol o’r ateb".

packages of pills

Yn ystod cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda’r Prif Weithredwr a Chadeirydd y Bwrdd Iechyd, tynnodd Sioned Williams sylw at y “ciwiau annerbyniol o hir” yn fferyllfeydd y dref, gyda chleifion weithiau’n gorfod aros yn hir i gasglu eu meddyginiaeth neu’n gorfod dychwelyd i gasglu rhai eitemau ar eu presgripsiynau yn hwyrach na’r diwrnod canlynol.

Mewn ymateb, fe wnaeth y Bwrdd Iechyd gydnabod bod problemau penodol yn bodoli ynghylch amseroedd aros hir mewn fferyllfeydd ym Mhontardawe, problemau sydd, yn ôl y Bwrdd Iechyd, yn ymwneud â materion staffio lleol yn ogystal â chynnydd cyffredinol yn y galw am wasanaethau, ond rhoddodd sicrwydd i’r Aelod o’r Senedd ei fod yn gweithio’n agos gyda’r gymuned fferyllfaol a phractis meddygon teulu i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Dywedodd Sioned Williams, AoS dros Orllewin De Cymru:

“Cwrddais â’r Bwrdd Iechyd eto i dynnu sylw at y ciwiau annerbyniol o hir yr ydym yn dal i’w gweld mewn fferyllfeydd lleol ym Mhontardawe, yn ogystal â phroblemau’n ymwneud ag argaeledd rhai meddyginiaethau.

“Rwyf wedi codi’r un pryderon gyda’r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ar sawl achlysur yn flaenorol. Mae'n annheg yn enwedig disgwyl i gleifion oedrannus neu anabl aros mewn ciw am eu presgripsiwn am yr hyn a all fod yn awr, neu hyd yn oed yn hirach, ac yna'n rhoi gwybod iddynt nad yw eu meddyginiaeth ar gael.

“Dywedodd y Bwrdd Iechyd wrthyf ei fod yn gweithio i fynd i’r afael â’r hyn yr oedd yn ei ddisgrifio i mi fel problemau gweithredol yn lleol; dywedodd yn ogystal y bydd yn lansio presgripsiynau digidol, fel dewis amgen i bresgripsiynau papur, o Haf 2023 ymlaen ar draws Cymru, a thrwy hyn leihau’r pwysau ar y fferyllfeydd a lleihau ciwiau.

“Ategais fy ngalwadau am drydedd fferyllfa ym Mhontardawe fel rhan allweddol o’r ateb a chynigais weithio’n adeiladol gyda’r Bwrdd Iechyd i edrych eto ar y mater hwn i sicrhau bod trigolion lleol yn cael mynediad digonol at wasanaethau fferyllol.”

Daw’r cyfarfod yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan Sioned Williams, Plaid Cymru a thrigolion lleol am drydedd fferyllfa ym Mhontardawe i ddelio â galw cynyddol.

Cyflwynwyd cais i agor fferyllfa ychwanegol ym mis Tachwedd 2020, fodd bynnag fe wrthodwyd y cais hwn gan y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2021.

Yn fuan wedyn, cyflwynwyd a chefnogwyd apêl gan gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru, meddygon teulu, a thrigolion ar draws y cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Amlygodd yr apêl werth tair blynedd o gwynion a defnydd o fap anghywir i bennu anghenion y boblogaeth. Yn dilyn hynny, gwrthodwyd yr apêl gan Weinidogion er gwaethaf cydnabyddiaeth o sawl diffyg yn rhesymau’r Byrddau Iechyd dros wrthwynebu rhai o’r dadleuon a gyflwynwyd gan y gymuned, a oedd yn cynnwys pob un o’r meddygon teulu o blaid fferyllfa ychwanegol i’w gwasanaethu.

Ysgrifennodd Sioned Williams lythyr at y Gweinidog Iechyd ddechrau mis Hydref yn herio'r penderfyniad i wrthod yr apêl. Daeth â’r mater i sylw’r Prif Weinidog hefyd, lle gofynnodd i Lywodraeth Cymru egluro pam eu bod yn “rhwystro ple etholwyr a meddygon teulu am well gwasanaethau fferyllol”.

Photo by Roberto Sorin on Unsplash

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd