AS Plaid Cymru yn gwneud apêl unfed awr ar ddeg i Gyngor Llafur i arbed ysgolion Cwm Tawe

Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Gabinet Llafur Cyngor Castell-nedd Port Talbot i arbed 3 ysgol yng Nghwm Tawe rhag cau.

Ddydd Mercher (Mehefin 16eg 2021) bydd y Cabinet Llafur yn trafod cynnig i sefydlu ‘uwch’ ysgol gynradd cyfrwng Saesneg enfawr newydd ym Mhontardawe, i gymryd lle Ysgolion yr Alltwen, Godre'rgraig a Llangiwg - bydd pob un ohonynt yn cau ar 31 Awst 2024 os yw'r Cabinet yn penderfynu cefnogi'r cynlluniau.

Mae Sioned Williams AS, sydd wedi ymgyrchu ers amser maith yn erbyn cau’r 3 ysgol, bellach wedi ysgrifennu’n ffurfiol at y Cyngor mewn ymgais olaf i achub yr ysgolion cyn y cyfarfod ddydd Mercher.

Dywedodd Sioned Williams:

“Mae’n gwbl amlwg o’r adroddiad ar yr ymgynghoriad a gyflwynir i Gabinet Llafur Castell-nedd Port Talbot ddydd Mercher mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd i’r ysgol gynradd newydd yn y gymuned y mae i fod i’w gwasanaethu.

“Mae’r adroddiad yn dangos yn glir, o’r 234 o ymatebion a dderbyniwyd i ymgynghoriad y Cyngor, mai dim ond 21 oedd o blaid y cynnig hwn. Yn ogystal, llofnododd 413 o bobl ddeiseb ar-lein yn erbyn y cynlluniau.

“Mae’r neges gan drigolion Cwm Tawe yn glir: nid ydym yn cymeradwyo’r cynlluniau hyn.

“Mae'n hanfodol felly nad yw'r Cyngor Llafur yn ceisio gorfodi y cynllun hwn ar drigolion oddi uchod, cynllun na chafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth na gyda chefnogaeth y gymuned, ac yr ymgynghorwyd arno yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol.

“Byddwn yn annog y cyngor i chwilio am atebion mwy priodol i’r cwestiynau a gododd yr ymgynghoriad, a’u bod yn ffocws yn un addysgol yn unig. Rwy’n arbennig o bryderus bod yr adroddiad ar yr ymgynghoriad yn awgrymu y byddai’r cyllid sydd ar gael o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn annhebygol o gael ei gymeradwyo ar gyfer gwaith atgyweirio ar safleoedd yr ysgolion presennol, er mai dyma ddigwyddodd yn achos darpariaeth uwchradd Ysgol Gyfun Ystalyfera. Mae strategaeth ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ei hun yn nodi’n glir bod adnewyddu ysgolion yn opsiwn, a chredaf fod angen i hyn gael ei archwilio ymhellach gan Castell-nedd Port Talbot yn yr achos hwn. ”

arwydd ysgolion

Mae'r AS Plaid Cymru hefyd wedi codi pryderon ynghylch rôl cyn Arweinydd y Cyngor, Rob Jones, yn natblygiad y cynlluniau, gan nodi:

“Daeth y cyfnod ymgynghori i ben cyn i’r  recordiad o gyn-arweinydd y cyngor Rob Jones ddod i’r amlwg ac felly nid yw’r adroddiad yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r pryderon lleol difrifol ynglŷn â rôl y Cynghorydd Rob Jones yn natblygiad y cynlluniau hyn. O ystyried y sylwadau yr honnir iddynt gael eu gwneud gan y Cynghorydd Jones yn datgan ei gefnogaeth i ‘uwch’ ysgolion mawr , mae llawer o drigolion yn teimlo nad oedd y broses ymgynghori yn ystyrlon.

“O ystyried yr amgylchiadau hyn, ac i sicrhau tryloywder llwyr a lefel briodol o ymgysylltu, rwyf wedi gofyn i’r cyngor ystyried dechrau’r broses gyfan o’r newydd, gyda mewnbwn uniongyrchol i unrhyw gynlluniau ynghylch dyfodol addysg gynradd yng Nghwm Tawe gan bob un o’r ysgolion o'r cychwyn cyntaf - trafodaeth onest ac agored ynghylch y gwahanol opsiynau sydd ar gael ar gyfer pob ysgol unigol, ac yna proses ymgynghori fwy ystyrlon - a fyddai bellach yn bosibl gan fod cyfyngiadau Covid yn llacio. "

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd