AS Plaid Cymru yn galw am weithredu ar ‘ffordd mwyaf swnllyd Cymru’

Mae Aelod o’r Senedd Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â lefelau sŵn ar ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd rhwng Castell-nedd a Hirwaun.

Datblygwyd yr A465 rhwng Hirwaun a Chastell-nedd yng nghanol y 90au ond mae wyneb y darn o ffordd a ddarperir i’r gogledd o Aberdulais o goncrit ac nid tarmacadam. Y canlyniad yw ei fod yn hynod swnllyd.

Mae preswylwyr sy'n byw yn agos at y ffordd mewn ardaloedd fel Cwmgwrach yn honni bod y sŵn yn mynd yn annioddefol wrth i'r ffordd fynd yn brysurach.

Dywedodd Sioned Williams AS:

“Bydd unrhyw un sydd wedi teithio ar hyd y ffordd yn cadarnhau mai dyma’r ffordd fwyaf swnllyd yng Nghymru yn ôl pob tebyg.

“Mae'n gefnffordd bwysig sy'n cysylltu Abertawe a'r Fenni, ac mae'r traffig ar ei hyd yn drwm.

“Wrth i chi yrru ar hyd y ffordd, rydych yn ymwybodol iawn eich bod wedi taro’r darn concrit, gan fod y cynnydd yn lefelau sŵn y cerbyd yn amlwg.

“Mae'r lefelau sŵn ar gyfer preswylwyr sy'n byw yn agos at y ffordd hefyd yn broblem. Wrth i'r ffordd fynd yn brysurach, mae lefelau sŵn wedi cynyddu i breswylwyr sy'n byw yn agos ati, ac yn ddealladwy maent am weld camau'n cael eu cymryd i ddelio ag ef.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi yn gynt ei bod yn edrych i mewn i’r llygredd sŵn ar hyd y ffordd. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog Llywodraeth Cymru, Julie James, yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ymchwiliadau a gynhaliwyd a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd.

“Mae’n amlwg bod angen ail-wneud y wyneb, yn enwedig ar hyd y rhannau sy’n agos at dai preswyl, gan ddefnyddio deunydd tawelach. Mae angen cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater. Gyda rhannau eraill o'r A465 yn cael eu huwchraddio ni allwn ganiatáu i'r rhan hon o'r ffordd i gael ei esgeuluso."

map of A465

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd