AS Plaid Cymru yn galw ar Fwrdd Iechyd Bae Abertawe i ddilyn Byrddau Iechyd eraill a chynnig ail frechiad mewn sesiynau galw heibio

Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i agor sesiynau galw heibio brechu Covid i'r rhai sydd angen eu hail ddos o'r frechlyn.

Bydd y sesiynau galw heibio Pfizer nesaf ar gyfer pobl 18 i 39 oed yn digwydd yn Ysbyty Maes y Bae ddydd Sadwrn, Gorffennaf 24ain, dydd Sul, Gorffennaf 25ain,  dydd Sadwrn, Gorffennaf 31ain a dydd Sul, Awst 1af. Fodd bynnag, mae'r rhain ar gyfer dosau cyntaf yn unig.

Yn y cyfamser, mewn ardaloedd eraill, mae Byrddau Iechyd eraill, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Hywel Dda sydd y drws nesaf i ardal Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae sesiynau galw heibio ar gyfer derbyn y frechlyn gyntaf a'r ail.

Yr wythnos diwethaf nododd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn y Senedd:

“...ym mhob rhan o Gymru, mae canolfannau brechu galw i mewn erbyn hyn, lle nad oes angen apwyntiad arnoch, nid oes angen i chi fynd drwy unrhyw weithdrefn gymhleth, rydych yn cyrraedd ac yn cael eich brechiad. Byddwn i'n annog pob person ifanc yng Nghymru sydd wedi cael cynnig dos cyntaf neu ail ddos o'r brechlyn i fanteisio ar y cynnig hwnnw."

Dywedodd Sioned Williams AS:

“Rydyn ni bellach yn nhrydedd don y pandemig hwn ac mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n cael cymaint o bobl wedi'u brechu'n llawn cyn gynted â phosib.

"Mae timau brechu ledled Cymru wedi gwneud gwaith gwych o frechu canran mor uchel o boblogaeth Cymru eisoes, ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn cael cymaint o bobl ifanc wedi’u brechu’n llawn cyn gynted â phosibl.

“Mae Byrddau Iechyd eraill fel Hywel Dda yn cynnig brechlynnau cyntaf ac ail yn eu sesiynau galw heibio torfol, ac rwy’n methu â deall pam nad yw Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn dilyn yr un llwybr.

“Dylai fod cysondeb ledled Cymru. Rwy'n siŵr y byddai pobl ifanc yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn manteisio ar y cyfle a byddwn yn galw ar y Bwrdd Iechyd i agor y sesiynau hyn i'r rhai sydd angen eu dos cyntaf a'u hail ddos.

“Mae gan Lywodraeth Cymru rôl yma hefyd i sicrhau bod pob Bwrdd Iechyd yn dilyn egwyddorion tebyg o ran eu rhaglenni brechu. Dim ond wythnos diwethaf, nododd y Prif Weinidog fod hyn eisoes yn digwydd ledled Cymru, ond mae'n amlwg nad yw'n digwydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac mae angen edrych ar hyn. "

botteli covid 19 vaccine

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd