Sioned Williams - Eich Aelod newydd o'r Senedd

Mae'n anrhydedd enfawr cael fy ethol yn Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru. Rwy'n addo bod yn llais cryf yn y Senedd i holl drigolion cymunedau etholaethau Castell-nedd, Abertawe, Gŵyr, Aberafan, Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr, ni waeth am bwy y gwnaethon nhw bleidleisio.

Roeddwn yn falch o'r ymgyrch gadarnhaol y bûm yn rhan ohoni yma yn Etholaeth Castell-nedd ac rwy’n credu y llwyddodd i dynnu sylw at lawer o faterion pwysig - fel yr angen i gefnogi canol ein trefi a'n strydoedd mawr, a’r angen i ddiwygio'r lefel annerbyniol o uchel o dreth gyngor yr ydym yn ei thalu. Fel AS dros y rhanbarth, byddaf yn parhau i ymgyrchu ar y materion hynny ac yn pwyso ar Lywodraeth Lafur newydd Cymru i weithredu a gwrando'n fwy astud ar bryderon pobl.

Gwelsom gynnydd ym mhleidlais Plaid Cymru yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, gan osod Plaid yn gadarn fel y dewis arall yn lle Llafur yn yr ardal hon. Yn etholaeth Castell-nedd roedd y bleidlais yn erbyn Llafur yn fwy na'r bleidlais dros Lafur, ond fe'i rhannwyd ar draws llawer o bleidiau. Y gan-ran a bleidleisiodd oedd 47%. Roedd Plaid Cymru yn ail glir, a gobeithiaf nawr weithio'n galed yn y blynyddoedd i ddod i gynnig dewis credadwy a fydd yn ysbrydoli mwy o bobl i bleidleisio. Mae democratiaeth yn dibynnu ar ddewis.

Felly, mae'r gwaith yn parhau. Mae gan ein cymunedau broblemau difrifol sydd â gwreiddiau dwfn - megis lefelau tlodi plant a chyflogau isel a oedd yn bodoli cyn i'r pandemig daro. Rwy’n teimlo’n gyffrous i fod yn rhan o dîm newydd ac egnïol newydd o Aelodau Plaid Cymru, sydd â thân yn eu boliau ac a fydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddwyn llywodraeth newydd Cymru i gyfrif ar y materion hyn. Mae’n fraint arbennig i fod wedi cael fy mhenodi yn lefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau.

Nid oes gennyf swyddfa leol eto - mae hynny i gyd i'w drefnu yn ystod y misoedd nesaf - ond gall-wch gysylltu gyda fi drwy ebostio [email protected] os oes gennych unrhwy fateri-on i’w codi.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd