Fy wythnos 28 Tachwedd - 4 Rhagfyr

Wythnos brysur eto! Dyma crynodeb byr  o rai o'r pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon yn y Senedd ac o gwmpas y rhanbarth.

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, siaradais yn y Senedd am yr angen i lywodraethau ym mhobman wneud yn well o ran hawliau pobl anabl.

Os yw Llywodraeth Cymru am gymryd ei hymrwymiad at wireddu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang o ddifrif, mae'n bwysig bod cysondeb rhwng ei datganiadau a'i gweithredoedd: https://fb.watch/heLNMyUByQ/

Mae pwysau penodol ar gyllidebau awdurdodau lleol o ran y galw cynyddol ar ofal cymdeithasol yn fy rhanbarth yng Ngorllewin De Cymru. Galwais felly ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu hariannu’n ddigonol yn fy rhanbarth a ledled Cymru: https://fb.watch/hff48TOjTr/

Roeddwn yn falch o gefnogi UCU Cymru yn ei rali yn y Senedd wythnos yma, yn eu brwydr dros dal, amodau a phensiynau teg. Solidariaeth! Mae Plaid Cymru yn sefyll gyda chi!

Treuliais y bore gyda Wendy, Karen, Elisha a'r gwirfoddolwyr anhygoel yng nghanolfan galw heibio Blaen-y-maes . Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud i gefnogi'r gymuned leol yn aruthrol. Gwelais sut mae'r banc bwyd, y siop ddillad cymunedol, yr ardd gymunedol a'r gweithgareddau cymdeithasol y maent yn eu darparu yn rhoi cefnogaeth ac yn hyrwyddo lles a sgiliau. Maen nhw bob amser yn chwilio am roddion ar gyfer y siop ac ar hyn o bryd mae angen dillad dynion yn arbennig arnynt.

Ces i gyfarfod ag Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor CNPT er mwyn codi materion lleol a thrafod cynlluniau’r cyngor ar gyfer y dyfodol. Nes i hefyd  croesawu’r newyddion y bydd Cyfeillion Parc Coffa Talbot o’r diwedd yn derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ategu arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, i wneud gwaith angenrheidiol ar y bandstand. Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod mewn cyswllt rheolaidd â chynrychiolwyr o’r Cyngor, gan wthio am gytundeb a fyddai’n caniatáu i’r gwaith fynd rhagddo.

Nes i hefyd nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd National Energy Action. Eleni maent yn amcangyfrif y bydd 6.7 miliwn o aelwydydd y DU yn byw mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys o leiaf 45% o aelwydydd Cymru. Os na allwch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod fforddio gwresogi eu cartref, maen nhw yma i helpu - mae'r NEA yn cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth yn uniongyrchol i bobl mewn angen, a thrwy weithwyr rheng flaen a chyfryngwyr eraill.

Ffoniwch 0800 304 7159, dydd Llun i ddydd Gwener 10.00am-12.00 canol dydd https://www.nea.org.uk/get-help/

Roedd yn bleser cael annerch Ffederasiwn y Townswomen's Guild De Orllewin Cymru heddiw yng Nghapel Soar, Pontardawe a bod yn rhan o’u Gwasanaeth Carolau blynyddol hyfryd. Roedd yn brofiad arbennig i mi allu croesawu aelodau o bob rhan o Dde Orllewin Cymru i fy nghapel fy hun! Da iawn i bawb a helpodd i drefnu'r digwyddiad hwn a chodi arian ar gyfer Grŵp Cymorth Cardiac Cwm Tawe.

Nes i orffen yr wythnos yn Siopa Nadolig! Diolch i Gynghorwyr Tref Pontardawe am eu gwaith caled ac i bawb a fu'n helpu trefnu yr Wyl Gaeaf bendigedig! Ac ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ymwelais â busnesau bach lleol gwych yn y dref sy'n helpu i sicrhau bod pob punt sy'n cael ei gwario yn aros yn yr economi leol.

Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd