Fy Wythnos 16-22 Ionawr 2023

Dyma crynodeb byr  o rai o'r pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon yn y Senedd ac o gwmpas y rhanbarth. 

Ar raglen Sharp End ITV Cymru, galwais ar Lywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng y GIG drwy sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu’n deg. https://fb.watch/iahotWPu9A/

Cefais fy nghyfweld gan Newyddion y BBC ac S4C am fy ngwrthwynebiad i'r cynlluniau i gau tair ysgol yng Nghwm Tawe i greu un ysgol enfawr ym Mhontardawe. Siaradais am fy ngwrthwynebiad i’r cynlluniau i gau Ysgolion Alltwen, Llangiwg a Godre’rgraig ar Newyddion S4C neithiwr. Ni ddylai Llywodraeth Cymru erioed fod wedi rhoi sêl bendith i’r cynlluniau hyn sy’n rhedeg yn groes i gynifer o nodau polisi cenedlaethol. Mae'r Glymblaid Enfys newydd sydd wedi cymryd drosodd gan Lafur ar Gyngor CNPT wedi atal y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau bod llais y gymuned yn cael ei glywed. Yr ymgynghoriad newydd hwn yw eich cyfle i leisio eich barn. Mae angen cyflwyno opsiynau amgen o ran darpariaeth addysg cyfrwng Saesneg yng Nghwm Tawe a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd cyllid ar gael i’r cyngor ar gyfer yr opsiynau posibl eraill. Mae'r ymgynghoriad wedi’i ymestyn tan8 Chwrfror. Rhannwch eich safbwyntiau yn fan hyn: https://www.npt.gov.uk/1891?lang=cy-gb#contents1. Darllewnwch y stori lawn yma: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/64260808?fbclid=IwAR0jtHga3wlWIQgpBDrZtlaxLzlCeYnXwuzvs3Jx7aWQGEhVJSBbJvkg6q8

Yn y Senedd noddais a siaradais yn y lansiad Cymreig o adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig Cyfochrog Cymru a Lloegr Just Fair UK Cymru i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Roedd trafodaeth wych ar gyflwr hawliau pob dydd ac mae’r adroddiad  yn uwcholeuo'r materion sy'n tramgwyddo'r hawliau hynny - fel effaith tlodi, anghydraddoldebau croestoriadol, amodau gwaith gwael a thai anfforddiadwy neu anaddas - ac yn dal Llywodraethau y DG a Chymru i gyfrif. Darllenwch yr Adroddiad yma: Just Fair

Mewn digwyddiad RNIB yn y Senedd cwrddais Paul Jones o Faglan a siaradodd am ei brofiadau a’i syniadau ynghylch yr hyn y gallai'r GIG ei wneud i wella’r ffordd y mae’n cyfathrebu â chleifion dall ac â golwg rhannol a sicrhau mynediad cyfartal i wasanaethau. Mae anghydraddoldeb yn rhoi cleifion mewn perygl o niwed ac yn tanseilio'u hannibyniaeth.

I nodi 200 mlynedd ers ei eni, rhoddais deyrnged yn y Senedd i’r naturiaethwr enwog Alfred Russel Wallace a oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghastell-nedd. Darlllenwch fwy yma: Naturiaethwr mwyaf Prydain - Sioned Williams AS (Cymraeg)

Fe gwrddais yn ddiweddar â British Gas a'r British Gas Energy Trust i drafod y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael i aelwydydd sy’n dioddef yn sgîl yr argyfwng costau byw. Gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol gyda chostau ynni cartref. Rhagor o wybodaeth: Help if you're struggling to pay for your energy (britishgas.co.uk)

Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)

Sioned and Paul Davies standing in the Senedd

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd