Fy wythnos 7-13 Tachwedd

Crynodeb byr  o rai o'r pethau rydw i wedi bod yn eu gwneud yr wythnos hon yn y Senedd ac o gwmpas y rhanbarth.

Yn dilyn problemau tywydd garw diweddar gofynnais i Lywodraeth Cymru am gymorth brys i helpu Cyngor CNPT gyda chost glanhau difrod llifogydd. Roedd llifogydd difrifol yn ardal y Melin, Castell-nedd, felly gofynnais am help i ariannu'r gwelliannau angenrheidiol i'r gwaith atal llifogydd ym Melincryddan a thaliadau cymorth i aelwydydd a busnesau yr effeithiwyd arnynt. Darllenwch fwy yma: Sioned Williams yn mynnu cymorth brys yn dilyn llifogydd yng Nghastell-nedd

Ar ôl cael llawer o gwynion gan y gymuned, gofynnais i Lywodraeth Cymru pam y gwrthodon nhw apêl i agor fferyllfa ychwanegol ym Mhontardawe - er gwaethaf cynnydd yn y galw am ofal iechyd, yr angen clir am gynnydd mewn capasiti yn lleol, a chynllun Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer timau fferylliaeth gymunedol i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal. Gallwch ddarllen mwy yma: Herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod fferyllfa ychwanegol ym Mhontardawe

Bûm mewn sesiwn friffio gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, Cymru i drafod cynaliadwyedd a dyfodol deunydd fferyllol – gan gynnwys datgarboneiddio mewn meddygaeth anadlol a rhagnodi a gwaredu meddyginiaethau’n briodol.

Braf hefyd oedd cwrdd â Jilly y milgi hyfryd, yn y Senedd, a rhoi fy nghefnogaeth i’r ymgyrch dros ddiwedd graddol i rasio milgwn yng Nghymru.

Yn ôl yn y rhanbarth, ymwelais â champws Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel aelod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i siarad â myfyrwyr a staff am gymorth iechyd meddwl. Cefais groeso cynnes iawn a mewnwelediadau gwerthfawr.

Ddydd Sadwrn siaradais yn yr Orymdaith dros Gyfiawnder Hinsawdd yn Abertawe i nodi Diwrnod o Weithredu ar yr Hinsawdd COP27. Roedd yn galonogol gweld cymaint o ddinasyddion gweithredol yn troi allan i gefnogi galwadau am fwy o weithredu ar yr amgylchedd.

Yn olaf, mynychais Wasanaeth Sul y Cofio Tref Castell-nedd, a gosodais blodeudorch wrth y Gatiau Coffa er cof am bawb sydd wedi dioddef yn sgil rhyfel.

Sioned Williams yn mynnu cymorth brys yn dilyn llifogydd yng Nghastell-nedd

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)

  

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd