Fy wythnos 6 - 12 Chwefror 2023

Cip olwg ar fy ngwaith yn y Senedd ac yn y gymuned dos yr wythnos diwethaf.

Yn y Senedd, galwais ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio eu grymoedd presennol i godi mwy o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i ddatganoli’r grymoedd sydd eu hangen i wneud trethiant tecach yn bosibl. Gwyliwch fwy yma: https://fb.watch/iH5U9GMxTl/

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Merched mewn Gwyddoniaeth, es i ar ymweliad i gwmni Power and Water yn Llansamlet i gwrdd â COO Mike Rattenbury a grŵp o fenywod ifanc ysbrydoledig, Lizzie, Kat ac Iryna, sy'n arwain y ffordd o fewn y cwmni. Roedd clywed am y gwaith arloesol y maent yn ei wneud ym maes technoleg trin dŵr cynaliadwy yn hynod ddiddorol ac yn enghraifft wych o’r dalent a’r arloesedd y gallwn eu cyflawni yma yng Nghymru. Un yn enedigol yn Abertawe, un wedi graddio o Prifysgol Abertawe ac un yn ffoadur o'r Wcráin sydd wedi ymgartrefu yn Abertawe - maen nhw i gyd yn enghreifftiau ysbrydoledig o pam mae annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn pynciau STEM mor fuddiol. Darllenwch fwy yma: https://www.sionedwilliams.cymru/sioned_williams_praises_swansea_sustainable_business

Roeddwn yn falch i noddi digwyddiad Chwarae Teg  yn y Senedd heddiw i drafod eu hadroddiad #CyflwryGenedl2023. Canfyddiadau pryderus am ddiogelwch menywod, a diffyg cynnydd ar fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Cymaint o waith i'w wneud. https://chwaraeteg.com/newyddion/cyflwr-y-genedl-2023-menywod-yn-aros-degawdau-am-gydraddoldeb/

Cwrddais â Cydlynydd Datblygu Dwyieithrwydd, Angharad Morgan a Thiwtor Cymraeg Gwaith Llinos Davies yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot i glywed am y Prosiect Cymraeg Gwaith ac i ddathlu ei lwyddiant yn y coleg. 

Galwais ar Trafnidiaeth Cymru i ofyn am farn y gymuned ar adfywio gorsaf drenau Castell-nedd. https://nation.cymru/news/plaid-ms-calls-for-plan-to-improve-run-down-neath-train-station/

Cynhaliodd fy nhîm a minnau gymhorthfa stryd yn Nhreforys a siarad â thrigolion lleol am eu pryderon.

Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)

collage of images of Sioned at events this week

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd