Fy wythnos 9-15 Ionawr 2023

Mae wythnos cyntaf y flwyddyn newydd yn y Senedd wedi bod yn un prysur gan fod llawer o bwyntiau pwysig i’w codi gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr argyfwng yn y GIG a’r Argyfwng Costau Byw. Dyma rai o’r materion rwyf wedi’u codi.

Gofynnais i’r Prif Weinidog sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r rhestrau aros aml-flwyddyn ar gyfer llawdriniaeth orthopedig a’r amseroedd aros hir yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae etholwr wedi bod yn aros ers *5 mlynedd* am lawdriniaeth ar ei phen-gliniau! Mae tangyllido Cymru gan San Steffan yn broblem enfawr, ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi iechyd. Gwyliwch yma. Nid yw cynllun Llywodraeth Lafur Cymru i ddelio â'r argyfwng yn y GIG yn gweithio. Yn hytrach na beio nyrsys am streicio neu bobl Cymru am beidio â gofalu amdanynt eu hunain yn well, rhaid iddynt ddysgu gwersi eu methiannau eu hunain. Fel mater o frys. Gwyliwch yma.

Galwais ar y Gweinidog Addysg i roi mwy o gymorth i fyfyrwyr, a phrentisiaid ar yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid o £4.81 yr awr.

Mae 46% o aelwydydd rhieni sengl yn byw mewn tlodi. Mae 86% o rieni sengl yng Nghymru yn fenywod. Diolch i'r Cytundeb Cydweithio â Plaid Cymru, mae gwaith yn mynd rhagddo i ehangu gofal plant am ddim fel modd o amddiffyn menywod a phlant yn erbyn tlodi a'r argyfwngcostaubyw. Felly, gofynnais i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a ellid cyflymu’r gwaith sy’n cael ei wneud i ehangu gofal plant am ddim drwy’r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru i helpu teuluoedd i ymdopi. Gwyliwch yma
Gofynnais  beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni cydraddoldeb rhywedd mewn llywodraeth leol. Dim ond 36% o'r cynghorwyr a gafodd eu hethol yn yr etholiadau yn 2022 oedd yn fenywod. Mae’n hanfodol bod ein gwleidyddiaeth yn gynrychioliadol o gymdeithas. Gwyliwch yma.

Cwrddais i â gweithwyr y CWU a ddaeth i'r Senedd i siarad am y rhesymau dros eu hanghydfod â'r Post Brenhinol.

Cyfarfod cyntaf bywiog y flwyddyn newydd o Blaid Cymru Aberafan - lot o syniadau gwych ar gyfer gweithredu ar faterion lleol. https://www.ymuno.plaid.cymru/ 
Fe heriais y Llywodraeth Lafur yng Nghymru ar eu polisi iechyd yar raglen Y Byd yn ei Le S4C. Mae Llafur yn dweud: "Allwn ni ddim rhoi'r arian yma i'r gweithwyr achos fydd dim arian ar ôl i glirio'r backlog."Wel, sut allwn ni glirio'r backlog heb y gweithwyr? Y gweithwyr yw'r gwasanaeth iechyd! Gwyliwch yma.

Gallwch ddarllen mwy o fy areithiau Senedd a chwestiynau yma: Sioned Williams AS (senedd.cymru)

Sioned and Mabon with two others holding a CWU pink flag

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd