AoS Plaid yn cwrdd â llysgennad ifanc lleol i glywed cynlluniau uchelgeisiol

Mae AoS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi siarad am ei chyfarfod “ysbrydoledig” gyda Tomos Lloyd, llysgennad yr ymgyrch #iwill sydd o Gastell-nedd. 

Ymhlith y pynciau a drafodwyd yn ystod y sgwrs oedd yr ymdrechion i hyrwyddo safleoedd treftadaeth lleol fel Castell Castell-nedd a Gwaith Haearn Mynachlog Nedd, ymdrechion cadwraeth ar gyfer Camlas Tennant sydd dan fygythiad ar hyn o bryd, creu gwestai trychfilod a mesurau eraill i wella bioamrywiaeth leol, ynghyd â chyfleoedd i bobl ifanc ar draws yr ardal. 

 

neath castle sioned and tomos

 

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Sioned Williams y: 

“Roedd yn bleser cwrdd â Tomos a chlywed am y gwaith gwirfoddol y mae wedi bod yn ei wneud ar safle Gwaith Haearn Mynachlog Nedd a mannau eraill, ac am y newidiadau y mae am eu cyflawni ar draws ein cymunedau. Roedd ei angerdd ynghylch ein bioamrywiaeth leol, ein treftadaeth leol eang, a'n gweithgareddau i bobl ifanc yn ysbrydoledig, tra bod ei syniadau ar sut y gellid gwireddu newid yn ymarferol a chyraeddadwy. 

“Rwy’n hapus iawn i gefnogi Tomos yn ei ymdrechion ac eisiau clywed gan bobl ifanc eraill yng Nghastell-nedd ac ar draws Gorllewin De Cymru – rhowch wybod I fi pa newid ydych chi am ei weld yn eich cymuned ac os oes unrhyw beth rydych chi eisoes yn ei wneud yr hoffech dynnu sylw ato.” 

Mae'r ymgyrch #iwill yn fenter genedlaethol sy’n cefnogi a grymuso pobl ifanc i fod yn ddinasyddion gweithredol ac i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol. Mae cynllun llysgennad #iwill yn cydnabod pobl ifanc sydd eisoes yn arweinwyr lleol ac eisiau gwella eu gallu i sicrhau newid go iawn i'w cymunedau, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth iddynt. 

Yn ogystal â gwirfoddoli gyda Chyfeillion Cwmni Haearn Mynachlog Nedd am y ddwy flynedd ddiwethaf a chyfrannu at drawsnewid y safle, mae Tomos hefyd yn cynorthwyo ffermwr  i edrych ar ôl ei fferm a'i dda byw, yn aelod o Ffermwyr Ifanc Castell-nedd, wedi dysgu sgiliau rheoli tir ac wedi bod yn rhan o gynlluniau fel creu gwesty trychfilod, ardaloedd peillio a chompostio. 

 I ddarganfod mwy am yr ymgyrch #iwill a'r cynllun llysgenhadon, ewch i wefan www.iwill.org.uk

 I rannu'ch stori gyda Sioned Williams, am y newid rydych chi am weld yn eich cymuned, cysylltwch â Sioned drwy ebostio [email protected]

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd