AS yn galw am Gwest i Drychineb Glofa'r Gleision

Mae AS Gorllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi cefnogi galwadau am gwest llawn i Drychineb Glofa'r Gleision 2011, a achosodd marwolaeth pedwar glowr.

Ar 15 Medi 2011, yn dilyn gwaith ffrwydro ym mhwll glo'r Gleision ger Cilybebyll, Pontardawe, llifodd miloedd o alwyni o ddŵr i'r twnel lle'r oedd saith glowr yn gweithio. Er bod tri o'r saith wedi gallu dianc yn ddiogel, roedd pedwar glowr yn gaeth dan ddaear. Er gwaethaf ymdrechion gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Achub y Glowyr, cadarnhawyd y diwrnod canlynol fod Charles Breslin, David Powell, Philip Hill, a Garry Jenkins wedi colli eu bywydau.

Yn dilyn ymchwiliadau, daethpwyd â chyhuddiadau dynladdiad yn erbyn rheolwr y safle ac MNS Mining Ltd., ond cafwyd pawb yn ddieuog o bob cyhuddiad.

Er gwaethaf hyn, erys cwestiynau ynghylch sut y cafodd y pwll ei redeg dros sawl blwyddyn a beth yn union achosodd y drychineb. Amlygwyd hyn yn dilyn ymchwiliad annibynnol manwl a nododd nifer o faterion perthnasol na ymchwiliwyd iddynt o'r blaen.

Dywedodd Sioned Williams AS, a gyfarfu’n ddiweddar â rhai o deuluoedd y glowyr a gollwyd, a rhai o'r goroeswyr:

“Mae wedi bod dros ddeng mlynedd ers i ddŵr lifo i lofa'r Gleision, pan gollodd pedwar dyn eu bywydau mewn modd mor drasig. Deng mlynedd o sioc, deng mlynedd o golled, o alar ac o lawer o gwestiynau - ond ychydig iawn o atebion. Mae'n hanfodol bod cwest cyflawn yn cael ei gynnal ar gyfer y gymuned ac, yn bwysicaf oll, y teuluoedd a gollodd anwyliaid, fel y gallant o'r diwedd gael atebion i'r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw ac yn y dyddiau a arweiniodd at y drychineb.”

Mae Sioned Williams AS wedi cysylltu â swyddfa’r Crwner ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ei annog i gwblhau cwest cyhoeddus llawn a agorwyd ac a ohiriwyd yn wreiddiol yn 2013.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, cynghorydd sir dros Ystalyfera ac Arweinydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru yng Nghastell-nedd Port Talbot:

“Ar y cyd â Sioned Williams, rwyf wedi cyfarfod â pherthnasau dioddefwyr y drasiedi erchyll hon ac rwy'n cefnogi eu galwadau am gwest cyhoeddus. Mae blynyddoedd wedi mynd heibio heb unrhyw esboniad am lawer o'r digwyddiadau o amgylch y diwrnod hwnnw. Mae deng mlynedd yn rhy hir o lawer i aros am atebion.”

Ym mis Medi 2021, ar ddengmlwyddiant y drychineb, cynhaliwyd seremoni arbennig yng Nghanolfan Gymuned Rhos, lle deng mlynedd yn flaenorol ymgasglodd aelodau'r teulu i aros am newyddion, ac hefyd yn Tarenni yng Ngodre'rgraig yng nghysgod y pwll glo sy bellach yn segur. Dadorchuddiwyd mainc a dram coffa fel atgof parhaol o'r drychineb ac i gofio'r pedwar dyn a gollodd eu bywydau.

cofeb

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd