Galwadau am fwy o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol

Fe alwais ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu hariannu'n deg, wrth i'r argyfwng costau byw waethygu.

Old lady's hands

Mae ein hawdurdodau lleol yn wynebu pwysau ariannol enfawr wrth i'r argyfwng costau byw effeithio'n enwedig ar y mwyaf bregus. 

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'r cyngor wedi bod yn mynd allan i holl gymunedau ardal yr awdurdod lleol i gael cyfarfodydd cyhoeddus, fel bod pobl yn deall yn iawn beth sydd yn y fantol yma ac i ofyn am syniadau ynglŷn â sut y gellir rheoli pethau.

Mae pwysau penodol ar gyllidebau awdurdodau lleol o ran y galw cynyddol ar ofal cymdeithasol yn fy rhanbarth. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, er enghraifft, bu cynnydd cyson mewn atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol oedolion a gwasanaethau plant a phobl ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod yn ei eiriau ei hun fod bylchau'n bodoli mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Heb gyllid ychwanegol i ddiwallu’r angen am wasanaethau cymdeithasol i oedolion a phlant, bydd yn amhosibl datrys rhai o achosion yr argyfwng yn y gwasanaeth iechyd—er enghraifft, pobl yn methu gadael ysbytai, a mwy o bobl yn mynd i’r ysbyty oherwydd pwysau ar deuluoedd pan nad ydynt yn cael y cymorth cywir.

Yn ôl Tîm Dadansoddi Cyllid Cymru, mae datganiad hydref y Canghellor yn golygu y bydd £1.2 biliwn ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i gyllid canlyniadol Barnett. Gofynnais felly i Lywodraeth Cymru roi sicrwydd fod y cyllid sydd wedi'i gynnwys yn yr £1.2 biliwn hwn ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol llywodraeth leol yn cael ei basbortio'n llawn yn ystod y ddwy flynedd nesaf i setliadau llywodraeth leol.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd