Sioned yn cefnogi gyrfaoedd amgen i ferched ar ymweliad DVLA

Nid Jyst i Fechgyn y mae gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, oedd y neges mewn digwyddiad gyrfaoedd amgen i ferched yn y DVLA yn Abertawe. Roedd Sioned yn falch o gael ei gwahodd gan brif elusen cydraddoldeb rhywiol Cymru, Chwarae Teg mewn partneriaeth â’r DVLA i fynychu digwyddiad Nid yn Unig i Fechgyn ar 14 Hydref. Nod Nid yn Unig i Fechgyn yw rhoi’r cyfle i ferched ym mlynyddoedd 8 a 9, o ysgolion lleol a wahoddwyd, i ddarganfod mwy am y gwahanol opsiynau gyrfa cyn iddynt ddewis eu pynciau TGAU.

tri menyw o flaen llwyfan

Cynhaliwyd y digwyddiad yn swyddfeydd y DVLA, un o gyflogwyr fwyaf De Cymru, sydd yn gyfrifol am gynnal y cofrestriad a thrwyddedu gyrwyr Prydain. Maent yn frwdfrydig am annog merched mewn i bynciau GTPM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg) ac wedi rhedeg rhaglen GTPM arweinir gan wirfoddolwyr ers 2014 er mwyn hyrwyddo pynciau GTPM i sefydliadau llawr gwlad ag ysgolion yng Nghymru. Roedd y ffair gyrfaoedd TGCh yn ddathliad o ddau ddigwyddiad ymwybyddiaeth sef Diwrnod Ada Lovelace a Diwrnod Rhyngwladol y Ferch.

Wnaeth Sioned ymuno â disgyblion Ysgol Gellifedw mynychu’r digwyddiad a oedd yn canolbwyntio'n arbennig ar yrfaoedd mewn TGCh. Ar ddiwrnod y digwyddiad, aeth y disgyblion ar daith o gwmpas lle gwaith y DVLA er mwyn cael profiad o weithio yn y diwydiant TGCh. Cafon nhw’r cyfle i gwrdd â siarad efo menywod sydd yn fodelau rôl o sawl llwybr gyrfa yn TGCh ac i drio gweithgareddau ‘trio crefft’.

Mae adroddiad “Profiadau Merched Ifanc o Gyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd yng Nghymru”, a gyhoeddwyd mis yma gan Chwarae Teg, yn astudio’r darlun cyfredol o wasanaethau cyngor gyrfaoedd i fenywod ifanc yng Nghymru. Er mawr siom, mae’n dangos bod gormod o ddewisiadau gyrfa yn dal i gael eu dylanwadu gan stereoteipiau rhywedd hirsefydlog - yn arwain i arwahanu rhywedd yn y gweithle a’r bwlch cyflog ar sail rhywedd parhaus sydd yng Nghymru.

Mae Sioned yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel y rhain yn helpu i hysbysu ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol o ferched ifanc i archwilio gyrfaoedd nad ydynt yn draddodiadol yn cael eu hystyried yn rhai mor agored i fenywod.

 Merched yn chware gem gyda pel Sioned yn gwylio merched yn defnyddio cyfrifiadur

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd