'Peidiwch â gadael y mwyaf bregus ar drugaredd Llywodraeth Dorïaidd San Steffan' - Sioned Williams

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu nawr” i liniaru toriadau San Steffan i Gredyd Cynhwysol, wrth i’r cynnydd o £20 ddod i ben heddiw.

 

O heddiw ymlaen, fe fydd ryw 275,000 o bobl yng Nghymru sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gweld eu taliadau yn gostwng o £1,040, er gwaethaf rhybuddion eang o’r effaith niweidiol y bydd y toriad yn ei gael ar bobl sy’n byw mewn tlodi.

Wrth siarad yn y Senedd heddiw, galwodd Sioned Williams ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael â thlodi ac i gefnogi galwadau Plaid Cymru i ddatganoli grymoedd dros lesiant i Gymru.

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Daw’r toriad heddiw wrth i gostau byw a  chostau ynni cartref gynyddu’n sylweddol yng Nghymru, ac wrth i ragor o bobl gael eu parlysu gan ddyledion. Gan fod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i helpu pobl Cymru, rhaid iddi weithredu nawr i liniaru effeithiau'r penderfyniad trychinebus hwn ar 275,000 o aelwydydd tlotaf Cymru; byddai methiant i wneud hyn yn golygu ei bod yn ymwrthod yn llwyr â'r cyfrifoldeb sylfaenol hwn.

 “Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd amlinellu ei chynlluniau i wario’r £ 25m o gyllid ychwanegol sydd ar gael – gallai’r arian hwn gael ei wario, er enghraifft, yn helpu cwsmeriaid ynni sydd mewn dyled, yn enwedig o ystyried y ffaith y bydd penderfyniad San Steffan i dorri Credyd Cynhwysol yn effeithio ar lawer o’r bobl hyn.

 “Rwyf hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau eang am ddatganoli grymoedd dros lesiant i Gymru er mwyn i ni allu rhoi chwarae teg i bawb. Mae fy neges i Mark Drakeford yn syml: peidiwch â gadael y mwyaf bregus ar drugaredd Llywodraeth Dorïaidd San Steffan. Nid yw San Steffan erioed wedi poeni am bobl Cymru ac ni fydd byth.”

 

Gallwch wylio clip o gyfraniad Sioned yn y Senedd yn fan hyn.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd