Sioned Williams yn galw am weithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yr ysgyfaint

Galwodd AS Plaid Cymru, Sioned Williams yr wythnos hon ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cyfraddau uchel o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag asthma ymhlith menywod.

Wrth siarad yn ystod dadl yn y Senedd ddydd Mercher, galwodd Sioned Williams, sef llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, ar y Senedd i gefnogi cynnig Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol i drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint.

Yn ystod y ddadl, soniodd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru am hanes ei mam-gu, Mari Owens, "gwraig i löwr, ac yn byw yn Rhymni, pentref glofaol tlawd, lle roedd llwch a llygredd y diwydiant glo yn llenwi'r awyr adeg ei marwolaeth ym 1958"; buodd farw o asthma pan oedd yn 50 oed, cyn i'r AS gael ei geni. Ychwanegodd yr AS fod "pobl yn dal i farw o asthma yng Nghymru heddiw—pobl fel fy mam-gu, sy'n byw mewn ardaloedd tlawd, lle mae llygredd awyr yn dal i fod yn uchel, sy'n byw mewn tai oer a thamp."

Dywedodd Sioned Williams AS:

"Mae astudiaeth gan Asthma and Lung UK yn dangos bod menywod bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw o bwl o asthma na dynion. Amcangyfrifir bod 180,000 o fenywod yng Nghymru yn byw ag asthma ac mae'r adroddiad yn dangos nad oes digon o waith ymchwil wedi'i wneud i archwilio effeithiau hormonau rhyw benywaidd ar asthma. Gall amrywiadau mewn hormonau rhyw benywaidd a achosir gan lasoed, beichiogrwydd, y mislif a menopos waethygu neu hyd yn oed ysgogi pyliau o asthma sy'n bygwth bywyd. Wrth gofio bod fy mam-gu yr oedran oedd hi pan fu farw, 50, mae hyn yn amlwg hefyd o bosib yn ffactor yn yr hyn ddigwyddodd iddi hi.

"Felly, mae’n hynod o bryderus, yn arswydus, fel dywedodd Rhun ap Iorwerth, fod yna fenywod fel fy mam-gu yn dal i farw o asthma yng Nghymru heddiw. Mae meddyginiaethu a thriniaethau gwell i'w cael, ond mae ffactorau fel tlodi, diffyg aer glân ac effaith anghydraddoldebau iechyd yn dal i chwarae eu rhan yn y marwolaethau hyn, ac mae yn rhan fawr. Mae hwn yn faes y mae angen ymchwilio iddo ymhellach gan fod yr ymagwedd yr un maint i bawb bresennol ar gyfer trin asthma yn beryglus i lawer o fenywod yng Nghymru."

Aeth Sioned Williams yn ei blaen i amlinellu’r effeithiau andwyol y gall anghydraddoldeb economaidd ac aer brwnt eu cael ar iechyd anadlol:

"Yn y rhanbarth o Gymru dwi'n ei chynrychioli, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae 7.3% o bobl ag asthma, yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae'r rhanbarth hefyd yn cynnwys rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae 15% o Gastell-nedd Port Talbot, y sir ble dwi'n byw, yn y 10% o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru a 33% yn yr 20% mwyaf difreintiedig. Mae'r 20% tlotaf ddwy neu dair gwaith yn fwy tebygol o angen derbyniadau brys i’r ysbyty oherwydd asthma o gymharu â'r 20% cyfoethocaf.

"Rŷn ni wedi clywed gan Mabon ap Gwynfor am effaith ansawdd wael yr awyr, gyda Phort Talbot yn fy rhanbarth i yn un o'r llefydd gwaethaf am lygredd awyr yn y Deyrnas Gyfunol. Yn Aberafan, mae 75% o feddygfeydd ac 11% o ysgolion mewn ardaloedd sy'n torri terfynau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer nitrogen deuocsid. Mae 75.9% o bobl â COPD sy'n byw mewn amddifadedd yn nodi bod llygredd aer yn effeithio ar eu hiechyd. Mae anghydraddoldebau iechyd sylweddol yn sicr yn gysylltiedig â COPD, gyda phobl o'r aelwydydd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o gael pwl dwys pan fyddant yn cael trafferth anadlu.

"Dyw hi ddim dderbyniol bod y ffactorau hyn a gyfrannodd at farwolaeth fy mam-gu yn lawer rhy ifanc ym 1958, a miloedd o'i chyd-Gymry ers hynny, yn dal i beryglu a thorri bywydau yn fyr yn 2023."

Gwyliwch fwy:

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd