Buddugoliaeth yn yr Uchel Lys

Mae Sioned Williams AS wedi croesawu dyfarniad yr Uchel Lys bod penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i agor ysgol enfawr newydd cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe yn anghyfreithlon, am iddyn nhw fethu ag asesu effaith hyn ar addysg Gymraeg.

Mae’r dyfarniad yn dilyn cais am adolygiad barnwrol gan Rhieni Dros Addysg Gymraeg (“RhAG”), mudiad sy’n cefnogi rhieni sy’n dymuno dewis addysg Gymraeg i’w plant ac sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg yn gyffredinol.

Dywedodd Sioned Williams AoS:

“Mae hyn yn newyddion da i Gwm Tawe o ran gwarchod a datblygu'r Gymraeg yn lleol ac o ran tanlinellu natur wallus yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cynlluniau ad-drefnu ysgolion cyfrwng Saesneg.  Hoffwn ddiolch i RhAG, a lwyddodd i herio penderfyniad y Cyngor i agor yr ysgol newydd gan nad oedd yr ymgynghoriad statudol a’r penderfyniad dilynol o hynny yn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru. Rwy’n gyson wedi codi’r pwnc hwn gyda'r Cyngor blaenorol a gyda Llywodraeth Cymru, ac felly’n falch iawn o benderfyniad yr Uchel Lys.

 “Mae nawr angen ymgynghoriad newydd ar opsiynau amgen o ran ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd y cyllid a glustnodwyd ar gyfer y cynllun ac a gafodd ei oedi yn sgil y pryderon hyn, ar gael i'r Cyngor ar gyfer yr opsiynau posib eraill."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd