Naturiaethwr mwyaf Prydain

Yn gynharach yr wythnos hon cefais gyfle i rhoi teyrnged i Alfred Russel Wallace, a aned y mis hwn 200 mlynedd yn ôl ac y newidiodd ei syniadau’r byd.

Neath Mechanics institute - grey building

Wedi'i eni ger Brynbuga, treuliodd lawer o'i fywyd cynnar yn Lloegr a symud yn ôl i Gymru i weithio fel syrfëwr yng Nghastell-nedd. Yn ystod ei amser hamdden, datblygodd ei weithgareddau gwyddonol, ac, yn ei hunangofiant, cyfeiriodd at yr effaith a gafodd ei amser yng Nghastell-nedd arno, gan ddyfnhau ei ddiddordeb yn y byd naturiol, gan ddweud,

'Ni allaf ddwyn i gof un cwm sydd yn yr un maint o dir yn cynnwys cymaint o olygfeydd hardd a phrydferth, a chymaint o nodweddion arbennig diddorol, â Chwm Nedd.'

Yn dilyn ei amser yng Nghastell Nedd, teithiodd y byd, ac ar ôl dychwelyd cyhoeddodd rai o'i ganfyddiadau. Ysgrifennodd at un o'i arwyr, Charles Darwin, a chyhoeddasant erthyglau ar eu hastudiaethau ar y cyd. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac yn ôl pob tebyg wedi'i ysgogi gan Wallace, cyhoeddodd Darwin On the Origin of Species. Er mai am ei waith ar esblygiad yw'r hyn y mae llawer yn ei gofio amdano, ysgrifennodd Wallace ar lawer o bynciau eraill, gan gynnwys hawliau gweithwyr, y bleidlais i fenywod, perchnogaeth tir a thlodi.

Heddiw, mae'n parhau i gael ei gofio a'i ddathlu. Mae llwybr Alfred Russel Wallace yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnwys llawer o’r lleoedd y bu’n byw, ymweld â nhw neu’n gweithio ynddynt yn ystod ei gyfnod yno, gan gynnwys lleoedd fel fferm Bryncoch, Mynachlog Nedd, Rheilffordd Cwm Nedd, rhaeadr Melin-cwrt a sefydliad mecaneg Castell-nedd. Yn ddiweddar, bu Theatr na nÓg, cwmni o Gastell-nedd, yn coffau Alfred Russel Wallace drwy gynnal perfformiadau arbennig o’u cynhyrchiad arobryn o ddrama Geinor Styles You Should Ask Wallace.

Dros ddwy ganrif ar ôl ei eni, mae Wallace yn cael ei ystyried yn haeddiannol fel un o'r meddylwyr mwyaf dylanwadol a fu erioed. Mae Castell Nedd a Chymru gyfan yn hynod o falch ohono.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am lwybr Alfred Russel Wallace https://dramaticheart.wales/our-valleys/vale-of-neath/alfred-russel-wallace/?doing_wp_cron=1674217700.7386488914489746093750

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Theatr na nÓg a’u perfformiadau o You Should Ask Wallace https://theatr-nanog.co.uk/you-should-ask-wallace

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd